Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cristionogaeth, at wasanaeth dosbarth uwch yn yr ysgolion Sabbothol, yr hwn sydd yn holwyddoreg tra rhagorol; ond y mae'n debygol na chafodd gylchrediad digonol i gyfreithloni cyhoeddiad yr ail ran, yr hon yn ddiau a fuasai, fel pob peth Dr. Everett, yn dda, ac yn drysor gwerthfawr i'r genedl.

Wrth draethu am Dr. Everett fel diwygiwr, rhaid i ni beidio anghofio ei ymdrechion ffyddlon o blaid Dirwest. Fel y mae yn eithaf hysbys, yr oedd yr arferiad o yfed diodydd meddwol yn gyffredin iawn, braidd yn mhob cylch o gymdeithas, yn mlynyddoedd boreuol ei weinidogaeth. Yr oedd y gelyn dinystriol hwn wedi dyfod i mewn fel afon hefyd i eglwys Dduw, ac wedi llusgo lluaws o ddynion enwog, hyd yn nod o'r pwlpud, i warth a dinystr. Eithr er y ceid yn aml achos i ofidio a galaru am yr anrhaith a wneid, eto nid oedd ond ychydig wedi ei wneuthur erioed er ceisio rhoddi terfyn ac ataliad ar y drwg. Teimlodd Dr. Everett yn ddwys wrth weled y gelyn yn gwneuthur y fath alanastra mewn byd ac eglwys, a daeth allan yn mysg y blaenaf o'i genedl i'w wrthwynebu. Nis gwyddom yn sicr pa mor foreu y dechreuodd ; ond bu yn offeryn, meddir, i ffurfio cymdeithas yn mhlith y Cymry yn Utica yn y flwyddyn 1830. Ac mae genym Anerchiad argraffedig o'i eiddo a draddodwyd yn Utica, Rhagfyr 25, 1833, ac a gyhoeddwyd ar gais y rhai a'i clywodd. Yn yr Anerchiad hwn taer anoga bawb o'r Cymry "i uno yn yr ymdrech a wneir yn awr at ddiwygio ein gwlad a'r byd oddiwrth y pechodau o ddiota a meddwdod." Gwna hyn trwy ddangos, yn

"I. Nad yw gwirod yn rheidiol i ddyn, ond yn hollol afreidiol.