Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II. Y mae gwirod yn gwneyd gwir niwed i bawb a'i defnyddiant.

III. Y mae yr yfwr cymedrol yn cynal yn mlaen y brofedigaeth sydd yn arwain i'r drygau mwyaf ac i'r trueni mwyaf yr arweiniwyd dyn iddynt erioed." A sylwa ar hyn: "1. O blith yr yfwyr cymedrol y mae y bylchau a wneir gan angau a chan garcharau yn myddinoedd y meddwon, yn cael eu llanw i fyny. 2. Yr yfwyr cymedrol yn benaf ydynt yn cynal i fyny y cylchrediad cyffredinol mewn gwirod yn ein gwlad ; ac oddiyma y tardd yr holl ddinystriol ganlyniadau. 3. Y mae yr yfwyr cymedrol yn rhoddi pwys eu cymeradwyaeth a'u henw da, mewn effaith, o du meddwdod; ac y mae hyn yn eu gwneyd yn gyfranog o'r canlyniadau. 4. Tra mae yr yfwyr cymedrol yn ymddwyn fel y maent, y mae llai o obaith am adferiad y meddwyn, ac y mae hyn yn peri eu bod yn gyfranog o'r dinystriol ganlyniadau." Yna sylwa, yn

"IV. Y mae yr hwn sydd yn defnyddio y ddiod gadarn, er yn gymedrol, yn ei anghymwyso ei hun i wneyd daioni i eraill; yr hyn sydd yn ddiau yn bechadurus yn ngolwg yr Arglwydd.

V. Y mae y rhai sydd yn defnyddio gwirod fel diod, er nad ydynt yn yfed i feddwdod, yn wir rwystr i gynydd y diwygiad.

VI. Y mae yr yfwr cymedrol yn rhodio, a hyny yn ymwybodol, ar lwybr peryglus. iawn, yr hyn sydd bechadurus." Yna gwna gymwysiad difrifol o'r mater at feddyliau proffeswyr crefydd, gweinidogion yr efengyl, a'r chwiorydd a'r mamau yn Israel, gan eu hanog yn daer i godi o ddifrif at y gwaith mawr o sobri y byd. Terfyna yr anerchiad gydag ateb amryw