Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o wrthddadleuon a gyfodid yn erbyn llwyr—ymataliaeth; a diwedda yn y geiriau difrifol hyn: "Wrth benderfynu pa un a weithredwch dros yr achos hwn ai yn ei erbyn, erfyniaf arnoch, fy anwyl wrandawyr, ymddwyn megys yn ngoleu dydd sobr y farn, pan y cawn gyfarfod a phob dyn ar yr hwn yr effeithiodd ein buchedd yn ddrwg neu yn dda. O! ddydd difrifol a fydd y dydd hwnw, pan y dygir y meddwon i gyfrif am eu hanwiredd, a phan y dygir ninau oll i gyfrif pa un a effeithiodd ein harferiadau er peri meddwdod, ynte er ei symud o'r byd. Deisyfwn ar Dad y Trugareddau ac awdwr pob daioni, bara ei nawdd ddwyfol i'r achos pwysig hwn, a phrysuro y boreu ag y bydd cariad at win a diod gadarn wedi darfod, a sobrwydd a gwir gymedrolder, yn nghyda llawenydd yn yr Ysbryd Glan yn llanw yr holl ddaear."

Er fod yr anerchiad hwn wedi ei draddodi, bellach, er ys dros bum'—mlynedd—a—deugain yn ol, eto byddai yn anhawdd dyfod o hyd i unrhyw anerchiad na thraethawd heddyw, yn yr hwn y gosodir yr achos i lawr ar seiliau cadarnach, neu y traethir arno yn fwy eglur ac argyhoeddiadol. Yn wir, pe cymerasai pob areithiwr ar ddirwest y tir cadarn ac Ysgrythyrol hwn a gymerai Mr. Everett, a phe ymgadwasai at yr ymresymiadau argyhoeddiadol hyn a'u cyffelyb, yn lle myned i adrodd hen ystorïau gwag a chwerthinllyd, ac i ddywedyd dwli dïenaid, buasai gwell golwg ar achos sobrwydd heddyw nag y sydd. Mae yr anerchiad hwn o eiddo Mr. Everett mor gadarn a chyflawn, fel mai ychydig iawn, os dim, sydd wedi ei chwanegu ato neu ei wella arno hyd heddyw. Pe gellid ei gyhoeddi yn draethodyn, a'i wasgar i bob man lle y mae