Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymry, diau y gwnelai lawer o ddaioni eto. Y mae, ysy waeth, yn gwbl amserol mewn llawer man heddyw.

Megys y dechreuodd Mr. Everett, fel hyn, yn foreu gyda'r gwaith da hwn, felly hefyd y parhaodd yn ffyddlon ac ymdrechgar, gan ddwyn pwys y dydd a'i wres, hyd ei awr ddiweddaf. Gwnaed llawer symudiad ar ol y cyntaf hwnw, ac ymladdwyd llawer brwydr galed yn achos dirwest wedi hyny; ond bob amser, safai Mr. Everett fel cadfridog dewr ar y blaen, ac ni phetrusai fentro i fan poethaf yr ymdrechfa. Safodd ef, a'i gydlafurwr dewr, y diweddar Barch. Morris Roberts, am flynyddau lawer, ochr-y-ochr, fel dau brif dywysog yn yr ymdrechfa bwysig, a chawsant gyd—lawenhau mewn llawer buddugoliaeth ogoneddus ar y gelyn meddwol, ac hefyd weled sychu bron yn llwyr y ffrydiau meddwol yn eu hardaloedd. Gobeithiwn y gofala eu holynwyr na welir mo honynt byth yn ail redeg eto, er trueni a dinystr y trigolion. Yr oedd llawer yn ei gyfrif yn ynfyd ac eithafol ar y cyntaf yn yr achos hwn; ystyrient ei sêl yn benboethni, a'i ddifrifoldeb yn ynfydrwydd. Cafwyd proffeswyr crefydd, do, a phregethwyr yr efengyl hefyd, i'w ddiystyru am ei lafur, ac i'w wawdio o herwydd ei ymdrechion diflino o blaid dirwest. Ond daliodd ef ati er hyny; a chafodd y rhan fwyaf o'i ddirmygwyr fyw i weled eu camgymeriad, ac enillwyd hwythau hefyd wedi hyny i fod yn bleidwyr ffyddlon i'r achos, Daeth achos llwyr—ymataliaeth yn flodeuog a phoblogaidd iawn yn mysg Cymry Swydd Oneida ar ol hyny. Cynaliwyd cyfarfodydd mawrion, cafwyd gwyliau arbenig, a gorymdeithiau godidog; cyhwfanwyd banerau buddugoliaeth yn yr awelon, a chanwyd clodydd dirwest