Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nes yr oedd hen fryniau Steuben a Remsen yn diaspedain gan y clodforedd! Yr oedd Dr, Everett o galon dros bob mesur cyfreithlon a dueddai at roddi terfyn ar ddiota a meddwdod. Llafuriodd yn galed lawer gwaith yn erbyn rhoddi trwyddedau i ddynion i werthu y diodydd; ac yr oedd yn gryf a diysgog dros gwbl waharddiad y fasnach mewn gwirodydd fel diodydd cyffredin. Gwir y bu i gynhwrf y gwrthryfel mawr, a'r terfysg blin a barodd, fyned a'i sylw ef, fel bron bawb eraill, fel nad oedd yn rhoddi cymaint o le yn ei ysgrifau i achos gwaharddiad yn y blynyddoedd diweddaf o'i fywyd. Eto dengys ei ysgrifau yn y Cenhadwr, am flynyddoedd o flaen y rhyfel, ei fod yn credu yn gadarn a diysgog mai llwyr waharddiad trwy gyfraith oedd yr unig foddion effeithiol i roddi terfyn ar ddiota a meddwdod.

Ond bydd enw Dr. Everett, fel diwygiwr, mewn coffadwriaeth, yn fwyaf neillduol, yn ei gysylltiad â'r achos gwrthgaethiwol, a hyny o herwydd y gwrthwynebiad chwerw a gafodd, a'r ffyddlondeb diysgog a ddangosodd i'r achos hwnw. Pan ddaeth ef i America, yr oedd Efrog Newydd yn Dalaeth gaeth, a pharhaodd felly am beth amser ar ol ei ddyfodiad yma. Yr oeddid wedi pasio, fodd bynag, yn y flwyddyn 1817, na byddai caethiwed yn y Dalaeth ar ol Gorph. 4ydd, 1827, pryd y rhyddhawyd deng mil o gaethion mewn un diwrnod, ac y rhoddwyd terfyn am byth ar gaethiwed o fewn y Dalaeth Ymerodrol. Cafodd Dr. Everett felly beth mantais i weled y gyfundrefn gaethiwol yn ei gwaith; ac ni theimlodd ond yr anghymeradwyaeth a'r gwrthwynebiad mwyaf iddi o'r dechreuad. Ysgrifena ei ferch Jennie atom: "Pan ddaeth