Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fy rhieni i America, buont wythnos yn teithio o New York i Utica, ac yr oedd yn daith flinderus iawn, yn enwedig i fy mam, gyda'i thri phlentyn bychain. Y gyrwr ydoedd ddyn du—un oedd, neu a fuasai, yn gaethwas yn un o'r Talaethau Gogleddol. Adroddodd wrth fy nhad lawer iawn yn nghylch caethiwed, a chymaint yn waeth eto ydoedd yn y De. Ni wybuasai fy nhad gymaint cyn hyny am y gyfundrefn, a chafodd ei gydymdeimlad dwfn ei enill. Ar ol hyny bu yn gyfaill a chydlafurwr yn yr achos gwrthgaethiwol â'r Parch. Beriah Green, yr Anrhydeddus Gerrit Smith, Alvan Stewart, Theodore Weld, ac eraill a gymerasant safleoedd mor gyhoeddus gyda'r achos yn y tymor boreuol hwnw. Darfu i'n dau frawd hynaf raddio yn yr Oneida Institute, lle yr oedd y Parch. Beriah Green yn brif athraw. Graddiodd ein chwaer henaf, Elizabeth, yn y Ladies' Seminary, yn Clinton; ac yr oedd y prif athraw yno, Mr. Kellogg, yn wrthgaethiwydd cryf, ac yn derbyn merched ieuainc o liw i'r ysgol."

Felly, bu adroddiad y dyn du o hanes cyflwr truenus a chaled y caethion, yn foddion effeithiol i greu atgasrwydd yn meddwl Mr. Everett at y gyfundrefn anghyfiawn ar ei ddyfodiad i'r wlad; a bu ei gydnabyddiaeth â'r gwyr a enwyd yn foddion i'w dynu allan yn ei wrthwynebiad i gaethiwed yn dra boreu. Eithaf tebygol ei fod yn mynychu cyfarfodydd a gynelid y pryd hwnw i wrthwynebu caeth wasiaeth. Pa un a oedd yn y cyfarfod yn Utica, yn y flwyddyn 1835, pryd y torwyd y cyfarfod i fyny gan y mob anrhydeddus (?), nis gwyddom.

[Ar ol ysgrifenu yr uchod, derbyniasom lythyr oddiwrth Mr. John R. Everett, mab hynaf Dr. Everett,