Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn dyweyd iddo ef fyned gyda'i dad, gyda'r ceffyl a'r cerbyd, i Utica, gyda'r bwriad o fyned i'r cyfarfod gwrthgaethiwol hwnw yno. Ni chyrhaeddasant y ddinas hyd agos ganol dydd, ac aethant i dy Mr. Henry Roberts (brawd-yn-nghyfraith Dr. Everett), a chlywsant yno fod y cyfarfod wedi cael ei dori i fyny gan y mob, o ddinasyddion blaenaf a mwyaf parchus y lle.]

Ond yr oedd yn wrthwynebwr penderfynol i gaethiwed er ei ddyfodiad cyntaf i'r wlad. Pan oedd y wlad yn dechreu cael ei chynhyrfu o ddifrif ar bwnc caethwasiaeth, yr oedd Mr. Everett yn weinidog yn hen eglwys luosog a dylanwadol y "Capel Uchaf," yn Steuben, ac hefyd yn olygydd y Cenhadwr, yr hyn a roddai iddo safle bwysig, a mantais neillduol i anog ei gyd-genedl i bleidio achos rhyddid; a gwnaeth yntau hefyd ddefnydd da o'r cyfleusdra. Cymerodd y Cenhadwr safle benderfynol a diamwys yn yr achos ar ei gychwyniad cyntaf, yn y flwyddyn 1840, a pharhaodd, er pob digalondid a gwrthwynebiad, yn ffyddlon a di-ildio, hyd nes y cafwyd buddugoliaeth, ac y llwyddwyd i ddileu y gyfundrefn gaethwasaidd yn llwyr o'r wlad. Mae enw Dr. Everett yn deilwng i gael ei restru gyda'r enwogion gwrol a hunan-aberthol a feiddiasant herio dirmyg a gwawd, gwrthwynebiad ac erledigaeth chwerw y cyhoedd, yn eu hymroddiad i achos y gorthrymedig, a'u hymdrechion i ddiwygio y wladwriaeth o'r pechod gwaeddfawr o gaethwasiaeth, megys, Benjamin Lundy, William Lloyd Garrison, Arthur a Lewis Tappan, Gerrit Smith, Wendell Phillips, Beriah Green, Alvan Stewart, Theodore Weld, ac eraill―dynion na chyfrifasant eu heinioes eu hun-