Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ain yn werthfawr, ac a lafuriasant tu hwnt i fesur o blaid achos rhyddid a chyfiawnder-oblegid bu efe mor ffyddlon ac ymroddol o fewn ei gylch, a dyoddefodd hefyd gymaint, yn ol ei amgylchiadau, a nemawr o honynt. O fewn ei gylch, meddwn, oblegid nid ydym yn anghofio mai yn mysg ei gyd-genedl y Cymry yr oedd efe yn llafurio yn benaf. Dywedai Cymro yn un o Dalaethau y Gorllewin wrthym unwaith, ei fod ef yn ystyried fod Mr. Everett wedi gwneuthur mwy tuag at ryddhau y caethion nag un dyn arall yn y wlad, oddieithr yr Arlywydd Lincoln. Cymro oedd hwnw, a hawdd gwybod mai o fewn y byd bach Cymreig yn unig yr oedd yn byw; a chan na wyddai nemawr am un byd arall, naturiol oedd iddo dybied mai hwnw oedd y mwyaf. Gwyr y cyffredin, fodd bynag, nad yw holl Gymry y byd ond megys defnyn o gelwrn i'w cydmaru â chenedloedd eraill ; ac y mae cylch eu dylanwad, o angenrheidrwydd, yn dra chyfyngedig yn y byd. Eto, nid wrth eangder cylch eu defnyddioldeb y gwobrwyir dynion, yn gymaint ag yn ol eu ffyddlondeb yn y cylch y byddont ynddo; ac o'i farnu wrth y safon yma, ac yn ol y goleu hwn, mae'n ddiau fod Dr. Everett wedi derbyn gwobr fawr, oblegid yr hyn a allodd, efe a'i gwnaeth.

Yn y rhifyn cyntaf oll o'r Cenhadwr, cyhoeddodd "Nodiadau ar Gaethiwed," gan Mr. Cadwaladr Jones, y pryd hwnw o Cincinnati, Ohio, ond yn awr o Lanfyllin, Cymru. Ac yn yr ail rifyn cyhoeddodd Mr. Everett erthygl o'i eiddo ei hunan, o dan y peniad, "Gweddio dros y Caethion." Rhoddodd bump o resymau dros hyny, y rhai oeddynt oll yn taro yn uniongyrchol ac yn rymus yn erbyn y gyfundrefn gaeth-