Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wasaidd; yr olaf o'r rhai ydoedd, y "byddai eu cofio yn fynych ger bron ein Tad nefol wrth yr orseddfaine, dan ddylanwad ac arweiniad ei Ysbryd, yn debyg o'n dwyn i deimlo yn addas tuag atynt yn eu hadfyd, ac i weithredu yn effro a diflino, yn ofn yr Arglwydd, er eu rhyddhad a'u hiechydwriaeth." Cyhoeddodd hefyd "Benderfyniadau ar Gaethiwed," gan Eglwys Gynulleidfaol Gyntaf Great Falls, N. Y., yn datgan eu syniad o ddrygedd ysgeler y pechod o gaethwasiaeth-eu penderfyniad i'w wrthwynebu gydag arf y gwirionedd mewn cariad, a'u bwriad i gynal cyfarfodydd gweddi misol dros y rhai sydd mewn rhwymau, &c." Cymerodd amgylchiad pwysig le hefyd y flwyddyn hono, a dynodd gryn lawer o sylw ar y pryd, ac a gynhyrfodd gryn lawer o gydymdeimlad hefyd â'r bobl dduon orthrymedig, sef cymeriad llong ar ororau Lloegr Newydd, a llawer o ddynion duon ar ei bwrdd, y rhai a ladratesid o Affrica, i'w cludo i Cuba, er eu gwerthu i gaethiwed. Y mae llawer o ddarllenwyr boreuaf y Cenhadwr yn cofio, yn ddiau, am "Negroaid yr Amistad," yr hanes am y rhai a gynyrchodd ddyddordeb cyffrous ar y pryd. Yn y flwyddyn 1841, cyhoeddodd "Anerchiad ar Ryddid," gan un a alwai ei hun yn GARWR RHYDDID. Y mae ysgrif a gawsom yn mysg papyrau y diweddar Barch. Morris Roberts ar y pwnc, a'r un enw wrthi, yn peri i`ni dybied yn lled sicr mai efe oedd awdwr yr anerchiad hwn ar ryddid. Y flwyddyn hono hefyd, pasiodd Cymanfa Gynulleidfaol Swydd Oneida y penderfyniad canlynol ar yr achos: "Penderfynwyd, Ein bod yn ystyried achos y caethion yn ein gwlad, eu lluosogrwydd, y creulonderau y maent yn ddyoddef, a'u hamddifadrwydd o fodd-