Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/148

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ion yr efengyl, yn galw am gydymdeimlad a gweddi, ac ymdrech drostynt, hyd a allo ein dylanwad gyrhaedd, er prysuro eu gwaredigaeth."

Felly gwelir fod yr achos yn graddol ddyfod i sylw. Yn rhag-gyfarchiad y golygydd am y flwyddyn 1842, dywed, "Y mae achos y caeth was wedi bod yn agos at ein meddwl y flwyddyn hon; ac yn hyn, fel achosion eraill, yr ydym yn dymuno gweithredu fel rhai sydd i roddi cyfrif i Farnwr y byw a'r meirw. Y mae yn dda genym ganfod fod graddau o ddeffroad yn mhlith ein cenedl, mewn manau, o blaid yr achos gwerthfawr hwn; ac O! enyned yr un ysbryd daionus yn mhob lle."

Yn y flwyddyn hono cyfieithodd a chyhoeddodd Mr. Everett, mewn rhifynau olynol o'r Cenhadwr, "Gyfansoddiad y Talaethau Unedig," yn nghyda " Datganiad eu Hannibyniaeth." Cyhoeddodd hefyd hanes ffurfiad Cymdeithas Wrthgaethiwol Gymreig yn Utica ac yn Steuben, yn nghydag amryw ysgrifau eraill ar wahanol arweddion yr achos. Ond nid oedd unrhyw wrthwynebiad neillduol i'r achos yn cael ei ddangos hyd yma. Cyfnod y cyfarfodydd mawrion a'r gwyliau, a'r gorymdeithiau dirwestol yn neillduol, oedd hwnw; ond yr oedd achos y caeth fel cwmwl bychan, eto yn graddol ymchwyddo. Yn y flwyddyn 1843, am fod rhai, fe allai, yn teimlo fod gormod yn cael ei gyhoeddi yn y Cenhadwr ar y pwnc, neu ynte rhag rhoddi achlysur i neb deimlo felly, cyhoeddwyd y Dyngarur, cyhoeddiad bychan misol o wyth tu dalen, o'r un plygiad a'r Cenhadwr, ac a ddeuai allan ganol y mis, yn yr hwn yr ymresymid yn unig "ar gyfiawnder a dirwest." Anfonwyd ef yn rhad i'r holl wein-