Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

idogion, o bob enwad, a'i derbynient, mor bell ag y caed gwybodaeth am eu henwau. Yn y rhifyn cyntaf dywedai Mr. Everett, gyda golwg ar ei fwriad ynddo : "Yn neillduol erfynir am ffeithiau gan y rhai a fuont yn y caeth Dalaethau, o berthynas i wir sefyllfa y caethion, y driniaeth a gânt, eu hymborth, gwisgoedd, breintiau crefyddol, &c."

Felly bu'r Dyngarur am y flwyddyn hono, bob mis, yn dangos allan erchyllderau caeth wasiaeth mewn lliwiau echrydus iawn. Yr oedd sylwadau tirion a theimladwy, ac erfyniau dwys-ddifrifol Mr. Everett, yn gymysgedig â'r darluniadau hyn, yn tueddu yn fawr er cynyrchu yn nghalon pob Cymro gasineb perffaith at y gyfundrefn greulon. Yn y flwyddyn hono dechreuai y dyfroedd gynyddu ac ymgryfhau. Yr oedd pleidwyr caeth wasiaeth yn cynhyrfu am gysylltu Texas â'r Talaethau Unedig, er lledaeniad a bytholiad caeth wasiaeth. Yr oedd pleidwyr rhyddid, hwythau, yn anfon deisebau i Washington i erfyn am ddilëad deddf greulon 1793, yr hon oedd yn rhwymo dinasyddion y Talaethau rhyddion i gynorthwyo y caethfeistri i ddal eu caethion ffoedig. Cyhoeddodd Mr. Everett erthygl alluog o blaid arwyddo y ddeiseb. A thrachefn cyhoeddodd ymresymiadau cryfion Mr. James G. Birney ar yr un mater, yn nghyda rhai ysgrifau gan eraill, ar Greulonderau y Gaethfasnach, &c. Penderfynodd cyfeillion y caethwas hefyd yn Lloegr Newydd, i anfon allan genadau i gynal cant o leiaf o gynadleddau a chyfarfodydd gwrthgaethiwol yn Nhalaethau New York, Pennsylvania, Ohio, ac Indiana. Cynaliwyd hefyd yn y cyfamser gynadledd wrthgaethiwol bwysig yn Llundain, i'r hon y dysgwylid, ac y bwriadai y