Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byd-enwog Thomas Clarkson ddyfod, ond methodd gan henaint ac afiechyd. Anfonodd anerchiad, fodd bynag, yr hwn a ddarllenwyd er mawr foddhad y cyfarfod. Pasiwyd yno benderfyniadau cryfion yn erbyn caethiwed, a mabwysiadwyd anerchiad at eglwysi Crist yn America, a gwledydd eraill lle yr oedd dynion yn cael eu dal yn gaethion.

Naturiol tybied fod y gwahanol foddion hyn yn effeithio i ddeffroi teimlad o ddyddordeb yn yr achos yn meddyliau y werin, ac fod y Cymry hefyd yn cyfranogi i raddau o'r un ysbryd. A chawn i Gymanfa Gynulleidfaol Swydd Oneida y flwyddyn hon, neu yn hytrach y gweinidogion oeddynt yn y Gymanfa, mewn cynadledd, basio tri o benderfyniadau difrifol, y rhai a osodent allan eu hystyriaeth o fawr ddrygedd caethiwed, a'u dyledswydd bwysig hwythau, fel gweision yr Arglwydd, i rybuddio eu cyd-ddinasyddion o'r ysgelerder hwn, a'u hanog yn ddifrifol a thaer i ddeffroi yn yr achos, a gwneuthur a allont, yn ofn yr Arglwydd, er gwaredigaeth y gorthrymedigion. Cynaliwyd cynadledd luosog a phwysig hefyd yn hydref y flwyddyn hono yn Steuben, pryd yr oedd yn bresenol amryw o areithwyr o fysg y Saeson-heblaw y Parchn. Mr. Everett, Morris Roberts, S. A. Williams, a T. J. Evans. Parhaodd y cyfarfod am ddau ddiwrnod cyfan, y boreu, prydnawn, a'r hwyr. Siaradwyd yn rymus ac effeithiol, yn Gymraeg a Saesonaeg, a phasiwyd amryw benderfyniadau cryfion ar yr achos. Effeithiodd y cyfarfod hwn i godi y teimlad gwrthgaethiwol gryn lawer yn uwch yn yr ardaloedd hyny nag oedd o'r blaen. Ac yn y flwyddyn 1844 aeth yn gynhyrfus iawn, o herwydd yr oedd yr ethol-