Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iad Llywyddol i gymeryd lle y flwyddyn hono. Y cwestiwn mawr i'w benderfynu y pryd hwnw rhwng y pleidiau gwladyddol oedd, derbyniad Texas i'r Undeb. Yr oedd y Democratiaid yn gryf dros ei derbyniad, tra yr oedd y Whigiaid, o'r tu arall, yn erbyn hyny, oddieithr y gellid effeithio hyny yn deg a boddlonol, ac heb achosi rhyfel. Yr oedd yn ddigon amlwg i bawb yn y De a'r Gogledd y byddai ei derbyniad, o herwydd ei lleoliad, yn fantais a chryfhad mawr i gaethiwed. Ac yr oedd pleidwyr caethwasiaeth yn y De, fel y sylwyd, wedi bod yn cynhyrfu y pwnc o'i derbyniad i'r pwrpas hwnw. Ac yr oedd llawer o Whigiaid a Democratiaid y Gogledd yn erbyn ei derbyniad ar y cyfrif hwnw, ond fod llwyddiant eu plaid o fwy o bwys yn eu golwg hwy ar y pryd.

Penododd y gwahanol bleidiau eu hymgeiswyr. Y Democratiaid a enwasant James K. Polk, a'r Whigiaid a osodasant i fyny Henry Clay, yr hwn, yn bersonol, ydoedd yn dra phoblogaidd y pryd hwnw. Y Gwrthgaethwyr, hwythau, a enwasant James G. Birney. Yr oedd Polk a Birney yn ddigêl, ac o egwyddor y naill dros, a'r llall yn erbyn derbyniad Texas, o herwydd y fantais a roddai hyny i gaethwasiaeth. Amcanodd Henry Clay gymeryd tir canol, ac yn anffodus iddo ef a'i blaid, ysgrifenodd lythyrau yn y rhai oedd yn datgan ei wrthwynebiad i dderbyniad Texas, nid ynddo ei hun, ond am y peryglai ryfel, &c. A dywedai hefyd na ddylasai y cwestiwn o gaethiwed ddyfod i fewn i'r ystyriaeth, &c. Cyn cyhoeddiad y llythyrau hyny golygid fod y Whigiaid yn debyg o gario pob peth o'u blaen yn yr etholiad. Ond profodd llythyrau mwys Mr. Clay yn fuan fel maen melin am