Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/152

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wddf y blaid, a newidiodd agwedd pethau yn fawr. Taflwyd pleidwyr Clay ar unwaith i'r diffynol, ac yr oeddid bellach yn golygu y byddai yr etholiad yn un glos iawn rhwng y ddwy hen blaid; mor glos, yn wir, fel y byddai i bwy bynag a gariai Dalaeth New York gario yr etholiad. Felly gwnaed New York yn faes neillduol yr ymdrechfa.

Yr oedd llawer o'r Whigiaid yn honi eu bod yn fwy o wrthwynebwyr i gaethwasiaeth na'r Democratiaid, ac yr oedd yn debygol y byddai i'r rhan fwyaf o lawer o'r Gwrthgaethwyr ddyfod allan o'r blaid hono, ac felly wrth gwrs yn ei gwanhau ac yn peryglu ei llwyddiant. Parai hyn y gwneid ymdrech mawr er lladd y blaid Wrthgaethiwol, neu y drydedd blaid fel ei gelwid, a chadw pawb i bleidleisio fel arferol gyda'r blaid Whigaidd. Yr oedd y Gwrthgaethwyr, hwythau, yn benderfynol iawn nad oedd mewn gwirionedd ddim rhagor rhwng y ddwy hen blaid ar bwnc caethwasiaeth. Dywedent hefyd fod Henry Clay yn dal caethion ei hunan. Yr oedd hefyd, meddent, wedi bod yn ymladd ornest (duel), ac felly cyhuddent ef o fod yn gaethfeistr a llofrudd! a dywedent nad oedd yn deilwng, ac na chaffai eu pleidleisiau hwy. Felly aeth yn boeth iawn. Yr oedd Dr. Everett, wrth wrthwynebu caethwasiaeth, fel pob peth arall, yn sefyll ar dir cadarn gwirionedd a chyfiawnder, a chyhoeddodd yn y Cenhadwr egwyddorion a theilyngdod cydmarol y gwahanol ymgeiswyr, a chymerodd ei safle yn ddiamwys ac agored o ochr Mr. Birney a'r blaid Wrthgaethiwol. Achosodd hyn ar unwaith wrthwynebiad ffyrnig a phenderfynol iddo gan bleidwyr Henry Clay yn mysg y Cymry; ac yr oedd y rhan fwyaf o honynt felly. A