Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/153

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phan welsant nad allent ateb ei resymau ar dir teg y gwirionedd, na'i ddarbwyllo yntau chwaith i ddystewi, trodd llawer o honynt i'w wawdio a'i ddirmygu, a chariasant eu gwrthwynebiadau i raddau tra eithafol a chywilyddus. Ni wnaed y fath wrthwynebiad i unrhyw blaid, na dim yn debyg chwaith, hyd y flwyddyn 1876, pryd y meiddiodd ychydig o dan led gyffelyb amgylchiadau, bleidleisio dros lwyr waharddiad y fasnach mewn diodydd meddwol.

Mae yn wir fod y gwrthwynebiad yn 1844 yn chwerwach a mwy erlidgar nag ydoedd yn 1876, ac yn wir nag y gwelsom ef ar un amser arall, heb eithrio adeg y gwrthryfel mawr. Pa fodd i gyfrif am hyny nis gwyddom, os nad am mai y gallu caethiwol, arglwyddiaethus a threisiol, oedd wrth wraidd, ac mewn modd arbenig yn cynyrchu cynhwrf ac yn rhoddi y cyweirnod i'r ymrysonfa hono yn 1844. Cleciadau bygythiol fflangell y caeth-yrwr, a thincian cadwynau gormes, a glywid yn amlwg braidd yn mhob man y flwyddyn hono. Yr oedd yr ysbryd tra-arglwyddiaethus a balchreolus hwn wedi cael ei hir feithrin yn y De, ac wedi cael ei ryddid er ys blynyddau bellach, nid yn unig i gyhoeddi y bygythion mwyaf arswydus a beiddgar, ac i weinyddu y cosbedigaethau mwyaf creulon ar y sawl a dybid eu bod yn cydymdeimlo â'r caethion yn y De, ond hefyd i gyhoeddus gynyg miloedd o ddoleri o wobr am benau rhai o'r cyfryw yn y Gogledd. Yr oedd yr ysbryd trahaus ac uchelfrydig hwn wedi cael ei oddef i redeg yn orwyllt ac aflywodraethus drwy yr holl wlad, gan derfysgu a thori i fyny gyfarfodydd heddychlon, dymchwelyd a distrywio argraffweisg, dirwyo a charcharu; ïe, ac hefyd gymeryd ymaith