Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/154

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fywydau dynion yn unig am gydymdeimlo â'r gorthrymedig, a gwrthwynebu caethwasiaeth y De. A chafodd Dr. Everett deimlo i raddau oddiwrth eu ffyrnigrwydd yn y blynyddau hyny. Ac yn adeg yr etholiad yn 1844 yn arbenig, fel y crybwyllwyd, aeth yn gynhyrfus iawn.

Yr oedd amrywiol bethau yn cydgyfarfod yn yr amgylchiadau hyny, er eu gwneyd yn neillduol o brofedigaethus i feddwl Dr. Everett. Yn un peth, yr oedd ef ei hunan yn ddyn naturiol lwfr (timid), ac o deimladau tyner ac ofnus; ac i raddau yr oedd yn dueddol i edrych ar yr ochr dywyll i bethau. Yr oedd ei ysbryd heddychlawn, tawel a boneddigaidd hefyd yn peri iddo fod yn wrthwynebus iawn i bob cynhwrf a therfysg. Yr oedd cythrwfl ac anghydfod yn peri poen a gofid iddo. Dywedai wrth ei was ar ddiwrnod yr oedd cyfarfod eglwysig i fod yn ei gapel, a olygai fod yn gynhyrfus, y buasai yn well ganddo fyned i'r coed o'r golwg, na myned i'r capel y diwrnod hwnw. Yr oedd ei deimlad gofidus fel eiddo y prophwyd Jeremiah pan ddywedai, "O na byddai i mi yn yr anialwch lety fforddolion, fel y gadawn fy mhobl, ac yr elwn oddiwrthynt." Heblaw hyny yr oedd Mr. Everett i gryn raddau ei hunan yn yr ymdrechfa bwysig. Yr oedd mwyafrif mawr o'r Cymry yn ei erbyn yn yr achos hwn. Mae yn wir fod gweinidogion Annibynol Sir Oneida yn gyffredin gydag ef. Y Parchn. Morris Roberts, James Griffiths a Samuel A. Williams a safasant fel un gwr drosto; a derbyniasant hefyd ran helaeth o'r dirmyg a gafodd yntau. Yr oedd rhai ereill yn ngwahanol ranau'r wlad yn bleidiol iddo, yn mysg y blaenaf o'r rhai yr oedd yr hybarch Thomas Ed-