Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/155

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wards, sydd eto yn fyw, ac yn awr o Pittsburgh. Gorphwysed bendithion goreu y nefoedd arno yn ei hen ddyddiau, a chaffed fyw flynyddoedd lawer i fwynhau ffrwythau y fuddugoliaeth! Ond fel rheol ni chaffai Mr. Everett gydymdeimlad, hyd yn nod ei frodyr yn y weinidogaeth yn y cyfnod hwnw. Ac yr oedd y rhan fwyaf o ddynion mwyaf dylanwadol yr eglwysi yn ei erbyn. Yr oedd hefyd yn cyhoeddi y Cenhadwr, ac yn awr yn unig berchenog o hono, ac yr oedd o bwys iddo allu cadw ei dderbynwyr heb leihau mewn rhifedi, ac yr oedd llawer yn bygwth ei roddi i fyny, a daroganid y darfyddai ei gylchrediad yn hollol yn fuan. A'r Cenhadwr oedd yr unig gyhoeddiad Cymraeg oedd y pryd hwnw yn pleidio achos y caeth.

Ysgrifenodd y Parch. Mathias Phillips, gweinidog gyda'r Bedyddwyr y pryd hwnw yn St. Albans, Ohio, lythyr at Mr. Everett, yr hwn a gyhoeddwyd yn y Cenhadwr am 1845, tu dal. 333, yn yr hwn y dywed: "Y mae yn ofidus genyf fod cynifer yn eich gwrthwynebu yn Seren Oneida, ac eraill o'r cyhoeddiadau misol, os nid yn arfer eu dylanwad yn eich erbyn; eto, fel Meroz, ddim o un cynorthwy."

Yr oedd y gwrthwynebiad a wneid i Mr. Everett hefyd, fel y crybwyllwyd, yn chwerw ac eithafol iawn. Cynelid cyfarfodydd politicaidd Cymreig gan y Whigiaid yn yr ysgoldai ar hyd yr ardaloedd, ac nid oedd enwau rhy ddirmygus i'w rhoddi ar Mr. Everett a'i ymdrechion, ynddynt; a chymeradwyid â bonllefau a rwygent yr awyr, y ddifriaeth isel wael! Defnyddid pob twyll-resymau ac anwireddau hefyd er dychrynu y bobl rhag cymeryd eu dylanwadu ganddo. Dywedid pe diddymid caethiwed y byddai y bobl ddu-