Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/156

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

on yn heigio y Gogledd fel llyffaint yr Aipht. Byddent yn tori ein tai, yn lladrata ein meddianau, yn treisio ein gwragedd, yn lladd ein dynion ac yn priodi ein merched, &c., &c. Dywedid hefyd fod caethiwed yn sefydliad Beiblaidd, ac mai anffyddwyr oedd y gwrthgaethwyr; a mawr y stwr a wneid eu bod yn troseddu ar Gyfansoddiad y wlad, yr hwn, meddent, oedd yn amddiffyn a chyfreithloni caethiwed. Priodolid pob drwg a ddygwyddai, i waith Mr. Everett ac eraill yn pregethu "abolition." Dywedwyd yn ei wyneb gan un yn nghapel Steuben, mai o'i achos ef a'i waith yr oedd y tatws yn pydru y blynyddau hyny. Clywsom un hen wr yn sicrhau mai barn amlwg oddiwrth yr Arglwydd, ar Mr. Everett am bregethu politics ar y Sabboth, a son cymaint am y bobl duon, oedd y gwlaw trwm a ddisgynodd ar brydnawn y Gymanfa yn Steuben. Cariwyd y gwrthwynebiad hefyd i'w eglwysi, yn enwedig yn Steuben; a gwnaed terfysg nid bychan yno. Cyhuddwyd Mr. Everett o fod yn gadael yr efengyl ac yn myned i bregethu politics ar ddydd yr Arglwydd, &c., &c. Ac ymdrechwyd yn egniol i rwygo yr eglwys a'i droi yntau ymaith. Aeth amryw allan y pryd hwnw, ac ni ddaeth rhai o honynt byth yn ol!

Cyn hir defnyddiwyd yr argraffwasg er taflu dirmyg a gwaradwydd arno ef ac eraill o weinidogion Oneida. Cyhoeddwyd wythnosolyn a elwid Seren Oneida, ac yn y papyryn hwnw, yr hwn a gyhoeddwyd am amrai fisoedd, cyhoeddwyd (uwchben ffugenwau wrth gwrs) yr enllibiau mwyaf maleisus, a'r celwyddau mwyaf gwarthus a chywilyddus, am weision yr Arglwydd. Dywedai y Parch. Samuel A. Williams