Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/157

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y byddai "y llythyrau dienw hyny oll a'r enwau priodol wrthynt yn y farn!" Cyfansoddwyd rhigymau hefyd ar enw barddoniaeth, yn llawn o lysenwau mwyaf dirmygus, ac o'r ensyniadau mwyaf sarhaus ac iselwael am Mr. Everett, Mr. Roberts ac eraill. Gwnaed hefyd yr hyn oedd yn fwy difrifol eto, er sarhau Mr. Everett, oblegid anurddwyd ei anifail trwy dori ei fwng a rhawn ei gynffon, er ei wneuthur yn wrthddrych gwawd a chwerthiniad ynfydion wrth deithio ar hyd y ffyrdd! A mwy na'r cyfan, dywedir y bygythiwyd ei fywyd gan ryw rai. Am hyn ysgrifena ei ferch Mary atom o New York fel y canlyn: "Y mae adgofion am y cyfarfodydd dirwestol a gwrthgaethiwol hyny yn mysg adgofion mwyaf bywiog boreu fy oes. Yr oedd y dyddordeb a gymerai fy nhad ynddynt mor fawr, ac yr oedd yn meddu gallu i lenwi ei holl deulu a'r un ysbryd. A ydych yn cofio amgylch ́iadau cneifiad neu yn hytrach haciad mwng a rhawn cynffon ei geffyl? Yr ydoedd oddeutu amser penodiad Mr. Birney i redeg am y Llywyddiaeth yn y flwyddyn 1844. Aeth i bregethu ar noson waith i ysgoldy yn A chan fod ei fywyd wedi cael ei fygwth o'r blaen, yr oeddym yn ofni iddo i fentro myned ei hunan. Felly aeth fy mrodyr John a Robert gydag ef. Ei destyn ydoedd, 'Agor dy enau dros y mud yn achos holl blant dinystr.' Wrth fyned i ymofyn y ceffyl ar ol y cyfarfod, cawsant y creadur truan wedi ei anffurfio. Rhaid mai â chyllell y gwnaed hyny, oblegid yr oedd amryw doriadau yn ei gnawd. Yr oedd y nos yn dywyll, a chan feddwl y gallai fod yr harness wedi ei gwneuthur yn anniogel, ac y gallai hefyd yr ymosodid arnynt ar y ffordd, ildiasant i gymell-