Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/158

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iadau taer cyfeillion i aros hyd y boreu. Dychymygwch ein pryder a'n hofnau, a'n hesmwythâd ar weled y tri yn dyfod i mewn i'r buarth boreu dranoeth. Nid anghofiaf byth ein cymysg deimladau y boreu hwnw o lawenydd a diolchgarwch am eu dychweliad diogel, ac o ddigllonedd wrth weled y toriadau yn nghnawd, a'r anurddiad a wnaethid ar ein merlyn bychan Canadaidd yn nhoriad ymaith ei fwng cyhwfanaidd, a'i gynffon wedi ei hymddifadu o'i phrydferthwch. Aeth wrth y llys-enw 'Bobtail Birney' yn hir ar ol hyny. A'n Henry bach, deg mlwydd oed, a gyfranogai hefyd o'r enw a'r dirmyg; ac arferai y bechgyn ymosod arno pan elai i'r pentref i ymofyn y mail. Unwaith bu agos iddynt lwyddo i ysbeilio ei logellau, ond llwyddodd i fyned o'u gafael. Byddem ni bob amser yn cael ein hatal rhag rhoddi mynegiad o'n digllonedd, yn wyneb y fath driniaeth greulon ar ein ceffyl truan; a chaffai pob ysbryd dial bob amser ei dawel ond effeithiol geryddu ynom. Ac er y mynegwyd i'n tad ar ol hyny pwy oedd y troseddwr hwnw, ni wnai byth amlygu yr enw, hyd yn nod i'w blant ei hunan."

Ni chlywsom fod neb erioed wedi awgrymu y peth lleiaf yn erbyn cymeriad moesol Mr. Everett. Nid oedd hyny, fodd bynag, fe allai, ond mater o ddygwyddiad yn fwy na dim arall, oblegid cafodd dynion mor bur ag yntau ddyoddef felly lawer gwaith cyn hyn; ïe, ac hyd yn nod ein bendigedig Waredwr ei hunan! Ac ni buasai raid i'r gwrthwynebiad fod yn ddim chwerwach yn erbyn Mr. Everett, nac yn fwy afresymol chwaith, er ymosod ar ei gymeriad yntau ; ond ni ddygwyddodd gymeryd y cyfeiriad hwnw. Y mae bron yn anghredadwy, erbyn hyn, i'r sawl na wel-