Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/159

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sant ac na chlywsant eu hunain, mor chwerw ac eithafol yr aeth llawer yn eu gwrthwynebiad. Cof genym glywed adrodd ar y pryd, fod un o'r ardalwyr yn Steuben yn dyfod i'r capel un boreu Sabboth, a chan sefyll yn y buarth o flaen y capel, dywedai yn uchel, fel y gallai pawb ei glywed, ei fod wrth ddyfod yno y boreu hwnw, wedi gweled bachgen digrefydd ac annuwiol yn y cae yn codi tatws ar ddydd yr Arglwydd ; ac iddo ef ofyn iddo, a ddeuai efe ddim i'r capel?—ac iddo yntau ateb gyda llw mawr, na ddeuai ef, nad oedd arno eisiau myned i'r capel i wrando ar bregethu politics! Ond yn mhen ychydig ddyddiau gollyngwyd y gath o'r cwd, trwy i'r bachgen gyfaddef mai ar gais, ac yn ol trefniad blaenorol â'r person crybwylledig, y gwnaethai efe felly; a chaed mai cynllun ydoedd y cyfan gan y dyn hwnw er dirmygu a cheisio niweidio Mr. Everett!

Ond safodd ef ei dir yn ddewr a di-ildio, yn wyneb yr holl waradwydd a'r gwrthwynebiad chwerw. Diau y buasai yn llawer mwy dymunol iddo ef, i allu byw mewn heddwch â'i gymydogion, ac i gael tawelwch ac undeb brawdol yn ei eglwysi ; eto yr oedd yn teimlo ei bod yn ddyledswydd arno sefyll o blaid yr achos pwysig. Teimlai yn hyny fel yr Apostol, pan ddywedai, "Angenrhaid a osodwyd arnaf." Ac yr ydym yn credu yn sicr y buasai yn cymeryd ei ladd a'i losgi yn hytrach nag ildio a rhoddi i fyny. Mewn cyfarfod eglwysig a gynaliwyd yn y Capel Uchaf, i'r dyben o geisio rhoddi taw arno, pryd, yn ol yr hanes a gawn, yr ymddygai rhai yno yn waeth nag "anifeiliaid yn Ephesus," eisteddai Mr. Everett yn dawel i wrando ar y cyhuddiadau beiddgar a roddid yn ei erbyn, a'r peth-