Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/160

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

au caledion a ddywedid am dano. Yna codai a safai wrth dalcen y bwrdd, a'i law yn gorphwys ar y Beibl, a dywedai, "Wel, frodyr, gellwch fy nhroi allan o'r eglwys hon, a chau y pwlpud hwn yn fy erbyn ; ond tra y bydd genyf wasanaeth y tafod yma, a thra y bydd y bysedd hyn yn gallu ysgrifenu, ni ellwch byth fy atal i ddadleu dros y gorthrymedig." Aeth yn mlaen mewn amddiffyniad iddo ei hun a'i waith, mewn modd araf-ddifrifol, a chwbl hunan-feddianol a Christionogol; ac eto gwelid yn ei holl ymddangosiad benderfynolrwydd diysgog y graig, a deallai ei wrthwynebwyr yn fuan, nad oedd cau dyrnau a gwneuthur clochnadau a haeriadau hyfion, disail, yn dychrynu dim ar y "dyn bach." Ac addefai rhai o honynt ar ol hyny, nad oedd o un dyben iddynt geisio ateb ei ymresymiadau cryfion.

Yn ei anerchiad golygyddol yn y Cenhadwr, ar ddiwedd y flwyddyn hono (1844), dywed: "Byddai yn ddymunol ac yn werthfawr iawn genym allu enill ewyllys da a boddhad ein cyd-ddynion yn gyffredinol; ond nis meiddiwn geisio ymgyrhaedd at hyny ar y draul o ddigio yr Arglwydd a thynu euogrwydd ar ein cydwybod." Ac eto dywed: "Gwnaed ymosodiad arnom yn ddiweddar, a roddodd glwyf dyfnach ar ein meddwl na nemawr ddim o'r cyfryw natur a'n cyfarfu erioed o'r blaen. Eto yr ydym yn siriol ac yn dawel gyda ein gwaith; nid ydym yn gofalu cymaint i geisio amddiffyn ein cymeriad; gadawn hyny yn llaw yr Arglwydd, ac ymbiliwn am gymorth i sefyll o hyd dros egwyddorion cywir, i feithrin yn ein mynwes dymer efengylaidd at bob dyn, i ddysgu doethineb mewn trallod, ac i ymddiried yn yr Arglwydd." Yr