Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/161

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd ei benderfyniad yn ddiysgog a diblygu. Mewn nodyn yn y Cenhadwr am 1844, tu dal. 143, dywed: "O'n rhan ein hunain ein penderfyniad ydoedd o'r dechreu, deued hawddfyd, deued adfyd, bywyd neu angau, i sefyll ar dir cyfiawnder, ac i ddyferu gair yn fynych wrth ein hoff genedl am sefyllfa aethus meibion a merched y gaethglud fawr."

Fel dangosiad o'r cyhuddiadau a roddid yn ei erbyn, gallem nodi yr engreifftiau canlynol: Cyhuddiad cyffredin a roddid gan lawer yn ei erbyn oedd, ei fod yn gadael yr efengyl, ac yn myned i bregethu politics ar y Sabboth. Ei ateb i hyn ydoedd: "Gan fod cymeriad dyn o fwy o werth, mewn ystyr, na dim arall a fedd yn y byd hwn, y mae (y golygydd) yn golygu yn rheidiol gwneyd sylw byr ar y cyhuddiad. Y mae yn cydnabod yn rhwydd ei fod yn pregethu ar bechadurusrwydd gorthrymder, ar y Sabboth, nad yw Duw yn cymeradwyo gorthrymder yn neb, fod hyny yn anghydsefyll â'i natur sanctaidd, ac â'i holl air, ac y dylai pob dyn, Cristionogion a phawb eraill, ddefnyddio eu holl ddylanwad a gwneyd a allont yn mhob dull heddychol a chyson â'r efengyl, o blaid y gorthrymedig, nes y 'gwareder ef o law y gorthrymwr.' Y mae yn pregethu ar y Sabboth fod y caethiwed Americanaidd yn bechod ysgeler yn erbyn Duw, yn ffieidddra cywilyddus, ac yn gamwedd eglur yn erbyn dynion a grewyd ar ddelw Duw; fod rhagfarn yn erbyn dyn o herwydd ei liw, neu un peth ynddo o waith Duw, yn sarhad ar Dduw ei hun, lluniwr a chrëwr pawb. Y mae yn pregethu ar y Sabboth fod pleidwyr gorthrymwyr yn gyfranogion â hwynt yn y camwedd. Ystyria y pethau hyn yn rhan o gyngor Duw,