Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/162

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac y byddai yntau yn euog o atal rhan o'r cyngor, pe byddai iddo gelu oddiwrth y bobl, ar y fath amser, wirioneddau o'r fath bwysigrwydd. Ond wrth y gair politics y golygir yn gyffredin bethau gwladwriaethol, achosion arianol y wladwriaeth, megys y tariff, y banciau, a'r cyffelyb. Er ei fod yn credu fod y pethau yna yn deilwng o son am danynt ar amserau priodol, ac er ei fod yn credu y bydd i waredigaeth y caethwas effeithio yn ddaionus ar achosion tymorol ein gwlad mewn llawer o ystyriaethau, ac mai priodol ar amserau priodol, yw son am hyny, eto nid yw yn ystyried yn gyson â dybenion y Sabboth, fel dydd crefyddol, i ymdrin dim â'r pethau yna; a'r rhai a'i gwrandawant bob Sabboth a wyddant nad yw yn gwneyd felly. Ei gynulleidfa oll ydynt ei dystion o'r pethau hyn." Cenhadwr am 1844, tu dal. 348.

Cyhuddiad pwysig yn erbyn Mr. Everett gan lawer, hefyd, ydoedd ei fod yn enllibio Henry Clay a'i blaid, trwy ddweyd pethau mor galed yn eu herbyn. Yn ateb i hyn, dywedai: "Gwyr pawb nad enllibio yw dweyd y gwir. Os dywedir anwiredd ar gaethfeistri, mae hyny yn enllib; ond os y gwir a ddywedir, nid enllib yw. Dywedir yn barhaus fod yr ymgeisyddion am y Llywyddiaeth gan ddwy o'r pleidiau yn awr ar y maes, yn gaethfeistri, a chyhoeddir eu rhesymau dros barhad y gyfundraeth hon, ac yn erbyn egwyddorion rhyddid i bob dyn, a hyny yn eu geiriau eu hunain. Nis gall hyny fod yn enllib. Dangosir am un o honynt ei fod yn ymladdwr duels o'i ieuenctyd— wedi bod ddwy waith ar y maes, ac wedi saethu ei wrthwynebydd, a'i wrthwynebydd wedi ei saethu yntau unwaith, ond nid yn angeuol; a'r tro arall wedi