Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/163

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

saethu ei belen trwy ddillad ei wrthwynebydd, ond methu ei berson; ac yn ddiweddar wedi caniatau y gallai amgylchiadau ddygwydd i'w alw eto i'r maes! Ond nid enllib yw hyn, ond ffeithiau gwirioneddol."

Aeth rhai mor feiddgar a digywilydd a thaenu ar led, mai er mwyn gwneyd arian yn unig yr oedd Mr. Everett yn gwrthwynebu caethwasiaeth ei fod yn ngwasanaeth y Democratiaid i wneuthur hyn er mwyn tynu pleidleisiau oddiwrth Mr. Clay, a'u bod yn talu arian mawr iddo am hyny-pum' cant o ddoleri meddai rhai; saith cant, meddai eraill. Wrth sylwi ar hyn, dywedai; "Clywsom, flynyddau yn ol, bethau cyffelyb; ond ni wnaethom sylw o honynt; ac nis gwnaem yn awr oni bae ein bod yn ofni i'r dywediad enllibus wneyd niwed i'r achos ag y mae ei lwyddiant yn agos at ein calon. Yr ydym yn awr yn tystio yn ddifrifol, ger bron yr hwn a wyr bob peth, nad ydym wedi derbyn dim, nac yn dysgwyl derbyn un ddolar, nac un cent, am ddim a wnaethom erioed yn yr achos hwn. Yr ydym wedi dysgwyl gwawd a dirmyg lawer tro o herwydd ein hymlyniad wrth achos a ddirmygir gan lawer; ac y mae hyny yn dyfod i'n rhan i raddau y dyddiau hyn, yn nghyda cholledion arianol hefyd, mewn amryw ffyrdd. Ond y mae meddu cydwybod ddirwystr yn ein mynwes tuag at Dduw a dynion yn mwy na gorbwyso y cyfan; ac y mae ein gobaith, er yn wan, o gael bod ryw ddiwrnod gyda'r dyrfa hono ag y dywed y Barnwr wrthynt, Yn gymaint a'i wneuthur o honoch i un o'r rhai hyn, fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.'"-Cenhadwr, 1844, tu dal. 346.

Felly daliodd ati mewn ysbryd Cristionogol, yn ddiflino, i daflu goleuni y gwirionedd dwyfol yn ei dan