Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/164

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

beidrwydd, i lewyrchu ar ddrygedd ysgeler caethwasiaeth, ac ar y mawr ddrwg a'r pwysig gyfrifoldeb o bleidleisio dros ddynion oeddynt yn pleidio y fath gyfundrefn echryslon. Gwnai hyn yn ei bregethau, ac mewn areithiau ar hyd yr ardaloedd, mewn ysgoldai a thai anedd, yn gystal hefyd ag mewn ysgrifau grymus a difrifol yn y Cenhadwr. Yr oedd yr Undeb Cynulleidfaol yn Swydd Oneida hefyd, yn mhob Cynadledd braidd, yn pasio penderfyniadau ar yr achos, ac yn gollwng ei ergydion trymion yn erbyn pleidwyr trais, a daeth Cymanfaoedd yr enwad hwnw mewn Talaethau eraill, cyn hir, i efelychu ei esiampl. Parhaodd yn frwydr galed a difrifol am amser maith. Rhy faith yma fyddai dilyn yr hanes yn ei holl fanylion; eithr achos rhyddid a chyfiawnder a raddol enillodd y dydd. Arweiniodd hyny i'r "gwrthryfel mawr," nad ydym hyd yma wedi ein gwaredu oddiwrth ei effeithiau a’i adfydus ganlyniadau ! Drylliwyd rhwymau gormes, gollyngwyd y carcharorion yn rhydd, a sicrhawyd, tu hwnt i bob posiblrwydd o fethiant, na chaiff caeth wasiaeth fodoli byth mwyach ar un droedfedd o dir perthynol i'r Talaethau Unedig! Golchwyd ein baner odidog yn lân oddiwrth y gwaed a'i llychwinai, a chyhwfana am byth mwyach yn wir faner rhyddid i bob dyn a ymgysgoda o dan ei hamddiffyniad!

Cafodd Dr. Everett, er ei fawr foddhad, fyw i weled hyn oll wedi ei gyflawni. A chafodd fyw hefyd i weled Duw yn peri i'w "holl elynion fod yn heddychol ag ef!" Cauodd yr Arglwydd bob genau a agorwyd yn ei erbyn; a byddai yn lled anhawdd heddyw ddyfod o hyd i ond ychydig o'r rhai a fuont yn ei anmharchu mor gywilyddus, ac yn ei wrthwynebu mor