Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/165

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwerw, yn nghynhwrf mawr y blynyddoedd gynt. Erbyn hyn mae y frwydr fawr hono wedi tawelu, a bellach mae'r mwg a'r caddug a lanwai yr awyrgylch wedi chwalu ymaith. A gwelir yn awr yn glirach wir gymeriad yr ymrysonfa bwysig; a gellir barnu erbyn hyn yn decach, a mwy diduedd, ymddygiadau y gwahanol bleidiau ynddi. Gwelir yn eglur erbyn heddyw, mai Dr. Everett oedd yn iawn! Gwelir hefyd ddarfod iddo gael cymorth mawr i gadw ar ganol ffordd y gwirionedd, ac ymgadw hefyd yn ysbryd yr efengyl yn dra rhyfedd, ac ystyried pobpeth, drwy holl boethder yr ymdrech fawr hono! Daw eymeriad yr ymosodiadau a wnaed arno hefyd i'r golwg yn eu lliw priodol eu hunain erbyn hyn; a diau mai y peth goreu ellir wneyd, bellach, yw taflu mantell cariad trostynt, i'w cuddio o olwg y byd, a cheisio mynwesu y syniad fod egwyddorion a dybenion ei wrthwynebwyr y pryd hwnw yn llawer gonestach a rhagorach na'u hymddygiadau.