Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/166

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

COFIANT MRS. ELIZABETH EVERETT,

STEUBEN, SWYDD ONEIDA, E. N.


GAN Y PARCH. EDWARD R. HUGHES, STEUBEN.


Yr wyf yn teimlo mai nid gwaith rhwydd i mi ydyw ysgrifenu cofiant i wrthddrych mor deilwng ag ydoedd Mrs. Everett; a hyny am ddau reswm. Yn gyntaf, nid dynes gyffredin ydoedd o ran meddwl, dysg, na duwioldeb; ond safai o'i hysgwyddau i fyny yn uwch na'r mwyafrif o'i chylch. Yn ail, yn mlynyddoedd diweddaf ei hoes y daethum i gyffyrddiad â hi, pan oedd y pren almon yn blodeuo, a'i nerth yn cyflym ballu. Adnabyddais hi ychydig dros bedair blynedd yn ol, pan ydoedd oddeutu 76 mlwydd oed. Ond y mae hen ddyddiau, fel rheol, yn dweyd yn bur eglur pa fodd y treuliwyd cyfnodau blaenorol y bywyd. Y mae ffrwyth yr hydref yn dweyd am flodau y gwanwyn a thyfiant yr haf. Y mae pob peth "yn deg yn ei amser”—blodau yn y gwanwyn, a ffrwyth yn yr hydref. Pan y gwelais Mrs. Everett gyntaf yr oedd ffrwythau hydref profiad yn llawn arni. Yr oedd llaw gras wedi bod yn gweithio arni am driugain mlynedd. Yr ydoedd yn golofn hardd yn tystio mai daionus a thrugarog ydoedd y Duw fu yn ei wasanaethu.

Rhoddwn yma amlinelliad o'i hanes, ac ymdrechwn wneyd rhai sylwadau ar brif nodweddion ei chymeriad. Yr oedd Mrs. Everett yn ail ferch i Mr. Thomas ac Elizabeth Roberts, Rosa Fawr, ger Dinbych, Gogledd