Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/167

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymru. Ganwyd hi Mai 8, 1797. Yr oedd ei thad yn ddyn o safle bwysig a dylanwadol yn y sir y trigianai ynddi yn ddiacon parchus iawn yn eglwys henafol Dinbych-o ran ei dduwioldeb yn ddiamheuol; ac yn nglyn â'r enwad y perthynai iddo adnabyddid ef yn mhell ac yn agos. Bu farw yn y flwyddyn 1834, ac yn y Cenhadwr, Hydref, 1842, cawn y nodiad a ganlyn: "Bu farw gan adael tystiolaeth gref mai Crist oedd ei fywyd, a bod marw iddo yn elw tragywyddol."

Am Mrs. Roberts, mam Mrs. Everett, dywedir ei bod yn ddynes uwchlaw y cyffredin ar lawer o ystyriaethau. Yn yr un Cenhadwr ceir cofiant rhagorol gan ei barchus olygydd iddi. Gwnawn y dyfyniadau canlynol allan o hono: "O ran cryfder ei chyneddfau yr oedd yn rhagori ar y cyffredin; o ran ei thymer naturiol, yr oedd yn addfwyn, yn bwyllog a dwys; fel cymydoges, yn serchog, caruaidd a dirodres; wrth y tlawd yr oedd yn dyner ac elusengar, ond yn ei thylwyth ac yn eglwys Dduw y gwelid ei gwerth fwyaf.” Terfynodd ei gyrfa ddaearol Mawrth 5, 1842, a chladdwyd hi yn meddrod y teulu yn Llanrhaiadr, ger Dinbych.

Yr oedd Elizabeth yn un o naw o blant, o'r rhai nid oes ond dau yn fyw-John, yn Sacramento, Cal., a Henry, yn Utica, N. Y. Yn 1836, ar ol marwolaeth ei thad, dewiswyd ei brawd Nathaniel yn un o ddiaconiaid eglwys Lôn Swan, Dinbych, a llanwodd y swydd hono er anrhydedd iddo ei hun a chysur i'r eglwys hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf 20, 1879. Bu Jane, ei chwaer ieuengaf, yn briod â'r Parchedig Edward Williams, un o'r cenhadon cyntaf,