Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/168

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffyddlonaf a mwyaf llwyddianus yn mhlith yr Hottentotiaid a'r Negroaid yn Affrica Ddeheuol.

Bu y llinach adnabyddus, parchus a chrefyddol hon yn byw yn Rosa Fawr am agos i bedwar ugain o flynyddoedd, pryd y prynwyd y lle gan foneddwr a fwriadai ymsefydlu yno ei hun.

Teimlid dylanwad crefyddol y teulu drwy y wlad o gylch yn mhob cyfeiriad. Yr oedd yn "dwr cadarn" i achos Ymneillduaeth yn y cylchoedd hyny pan nad oedd ond yn dechreu enill nerth, ac yr oedd Rosa yn llety clyd a chysurus i weinidogion a phregethwyr yr efengyl drwy y blynyddoedd. Nodweddid yr holl deulu gan sirioldeb, cymwynasgarwch a charedigrwydd, ond nid oedd un o honynt yn fwy felly nag Elizabeth. Yr oedd wedi ei chymwyso gan natur a gras i fod yn gyfrwng hapus i ddedwyddoli eraill. Byddai y rhai a ymwelent ag anedd ei rhieni yn myned ymaith gyda y syniadau uchaf am garedigrwydd, sirioldeb ac addfwynder yr eneth Elizabeth.

Ar aelwydydd crefyddol y megir enwogion y ffydd bron yn mhob oes a gwlad. A chafodd gwrthddrych ein cofiant ei geni mewn teulu hynod am eu crefydd, a'i dwyn i fyny o dan gronglwyd lle y perchid y Beibl ac yr arferid plygu glin ger bron gorseddfainc y gras. Cynelid yno addoliad teuluaidd gyda y cysondeb a'r rheoleidd-dra mwyaf, a'r nefoedd yn unig a wyr werth y rhagorfraint o gael ein magu mewn teulu fel hyn, oblegid tyr dylanwadau yr aelwyd allan yn ffrwyth yn y cymeriad. Yr oedd rhieni Mrs, Everett o amgylchiadau bydol pur gysurus; felly yr oeddynt yn alluog i roddi i'w plant fanteision addysgiaeth uwchlaw yr hyn a fwynheid yn gyffredin yn y dyddiau hyny. Credai