Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/169

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei rhieni mewn gosod allan ychydig o'u pethau bydol ar feddyliau eu plant; amcanent at ddadblygiad meddyliol yn gystal a chorphorol eu rhai bychain; a gwyn fyd na fyddai mwy o'r un ysbryd. Cafodd Elizabeth yn bur foreu y fantais o yfed o ffynonau dysgeidiaeth, ac yr oedd ôl y ddysgeidiaeth a gafodd yn nhymor ei hieuenctyd i'w weled arni yn ei hen ddyddiau. Medrai droi yn esmwyth yn y gymdeithas fwyaf gwrteithiedig. Cafodd ei gwreiddio yn lled dda yn elfenau darllenyddiaeth a rhifyddeg, a chyrhaeddodd wybodaeth bur eang a manwl o'r iaith Seisnig, yr hyn fu iddi yn hwylusdod mawr wedi dyfod drosodd i'r wlad Seisnigaidd hon. Yr ydym yn cael i'r Parch. Arthur Jones, D. D., Bangor, fod yn athraw iddi am beth amser, ond nis gwyddom pa hyd. Siaradai Mrs. Everett yn y modd cynesaf bob amser am Dr. Jones, a thybiwn na fu ei ddylanwad yn anffafriol iddi.

Fel y tyfai i fyny amlygodd chwaeth neillduol at ddarllen; ymhyfrydai yn nghymdeithas rhai o'r ysgrifenwyr goreu. Nid darllen er difyrwch yr ydoedd, ond er cyrhaedd gwybodaeth, a thrwy hyny ddyfod yn aelod defnyddiol o'r ysgol Sabbothol. Gadawodd yr ysgol ddyddiol pan yn gymharol ieuanc, ond parhaodd i fod yn ddysgybl ac athrawes, fel y byddai galw, o'r ysgol Sabbothol hyd derfyn ei gyrfa. Dywedir mai hi oedd un o gychwynwyr cyntaf y sefydliad gogoneddus hwn yn Ninbych, ac ni throdd ei chefn arno wedi dyfod drosodd i'r wlad hon. Fel athrawes gwnaeth ddaioni nas gwyr neb ond Duw ei faint. Cymerai y dyddordeb mwyaf yn y dosbarth fyddai dan ei gofal. Nid yn unig medrai gyfranu yn ddeheuig ac effeithiol y wybodaeth a feddianai, ond