Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/170

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hefyd meddai ar y cymwysder ardderchog hwnw sef y gallu i ddeffroi meddyliau ei dysgyblion. Gwnai hyn yn bur rhwydd a didrafferth. Y mae llawer heddyw, yn ngwahanol barthau y wlad, yn bendithio ei henw a'i choffadwriaeth oblegid y lles a dderbyniasant drwyddi yn y cymerind o athrawes yn yr ysgol Sabbothol.

Fel hyn yr oedd Mrs. Everett yn gwybod yr Ysgrythyr lân er yn ieuanc, ac nis gallasai gofio adeg pan nad oedd yn meddu argraffiadau crefyddol. Yr oedd er yn blentyn yn meddu tuedd gref i roddi ei hun i "fyny i'r Arglwydd ac i'w bobl yn ol ei ewyllys," a phan yn yr oedran tyner o 16 mlwydd oed, derbyniwyd hi i gymundeb fel aelod eglwysig yn Ninbych, gan y Parch. Thomas Powell, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog yr eglwys yn y lle. Cyfeiriai yn aml at yr adeg hono, a siaradai gyda pharch neillduol am y gwr Duw" a estynodd iddi ddeheulaw cymdeithas. Os am ddyfod yn ddefnyddiol gydag achos Duw rhaid dechreu yn foreu. "Da i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctyd."

Awst, 1816, ymbriododd â'r Parch. Robert Everett, olynydd ei hen weinidog yn Ninbych, a bu iddo yn ymgeledd gymwys yn llawn ystyr y gair hyd derfyn ei oes. Yr oedd yn meddu ar galon digon eang i gydymdeimlo ag ef yn yr holl drafferthion yr aeth drwyddynt yn nglyn a'i ddyledswyddau fel gweinidog, gwleidiadwr, a golygydd. Nid rhwystr iddo fu-nid plwm wrth ei odreu ydoedd i'w anhwyluso yn ei symudiadau ; ond bu yn gymorth iddo ar ei daith faith a llafurfawr. Gwelir ysgogiadau y goeden, ond ni welir y gwynt sydd yn eu hachosi; felly gwelir y