Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/171

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gweinidog doeth a gofalus, y gwleidiadwr tanllyd ac ymroddgar, a'r golygydd chwaethus a manwl; ond bydd y wraig o'r golwg, er mai iddi hi yn aml y gellid priodoli i raddau mawr lwyddiant ac effeithioldeb llafur ei gwr. Yr effeithiau wêl llygad dyn, ond gwêl llygad Duw yr achosion a'u cynyrchant, ac ef yn unig wyr faint o effeithioldeb llafur Dr. Everett oedd i'w briodoli i'w briod ddoeth, synwyrol, a chrefyddol.

Bu iddynt un-ar-ddeg o blant, pump o fechgyn a chwech o ferched; ond nid oes ond saith yn fyw, y rhai ydynt oll mewn amgylchiadau cysurus, ac yn ymdrechu rhodio yn llwybrau eu rhieni enwog a duwiol.

Mae John, eu mab hynaf, yn byw ar fferm o'i eiddo ei hun yn Kansas; Lewis, yr hwn sydd yn olynydd i'w dad fel golygydd y Cenhadwr Americanaidd, yn Steuben; Edward yn Turin, N. Y.; Mary yn Homeopathic physician yn ninas New York; a'r tair eraill, sef Jennie, Anna, a Sarah (gweddw y diweddar Mr. Wm. R. Prichard), yn nghyda'u nai, John Edward, mab John, ar dyddyn eu diweddar rieni.

Yr ydym wedi crybwyll yn barod fod Mrs. Everett yn enwog am ei theimlad crefyddol cryf; a chyfeiriwn yn awr at rai o'r moddau y dangosai y teimlad hwnw ei bun. Trwy y blynyddau cedwid i fyny addoliad teuluaidd ar ei haelwyd, ac yn aml byddai ei phriod yn cael ei alw oddicartref gan ddyledswyddau oeddynt yn nglyn a'i "alwedigaeth nefol," i'r hon y cysegrodd ei fywyd; ond ni fyddai yr addoliad byth yn cael ei esgeuluso. Yr oedd yn meddu ar ddigon o wrolder moesol i arwain yn y gwasanaeth. Golygfa hardd oedd gweled gwraig, yn absenoldeb ei phriod, yn agor yr hen Feibl, ac wedi darllen "allan o gyfraith yr Ar-