Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/172

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

glwydd," yn myned ar ei gliniau gan gyflwyno achos ei theulu i ofal Tad pob daioni, ac erfyn am i fendith y Nef gael ei thywallt arnynt, ac am i amddiffyniad Rhagluniaeth fod drostynt. Hyd yn nod pan y buasai ei phriod gartref, gwnai yn aml, ar ei gais ef, arwain yn yr addoliad, a byddai ei gweddiau yn afaelgar, gwresog, bywiog, a chynwysfawr. Amlygai bob amser y parodrwydd mwyaf i ymgymeryd â'r gorchwyl; yr oedd yn wastad o ran ei meddwl mewn teimlad gweddigar. Gyda y taerni mwyaf gweddïai dros yr eglwys, gweinidogion, a chenadau; ac yn neillduol dros y tô ieuanc; a gwnai hyny gyda'r fath deimlad a dwysder nes difrifoli pawb a'i clywai. Gyda chynesrwydd diolchai am drugareddau ei Thad nefol. Yr oedd ynddi y teimlad dyfnaf o'i hannheilyngdod, a chydnabyddai yn y modd mwyaf diolchgar ddaioni ac hir-ymaros Duw tuag ati. Mynych o flaen gorsedd gras yr adroddai y geiriau melus a ganlyn o eiddo Jeremiah: "Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu am danom; o herwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. Bob boreu y deuant o'r newydd; mawr yw dy ffyddlondeb."

Cyfarfyddodd y chwaer hon yn Israel a llawer o dywydd garw a phrofedigaethau ar ei thaith drwy y byd; cafodd y chwerw yn gystal a'r melus; y storm yn gystal a'r tywydd teg. Daeth i'w rhan rai damweiniau poenus; y rhai a roddasant iddi esgyrn drylliedig ryw bump o weithiau. Un tro, mor ddiweddar a phymtheg mis cyn ei marwolaeth, pan yn myned i'r cyfarfod, ar foreu Sabboth yn y gauaf, taflwyd hi o'r sleigh a thorodd ei chlun mewn dau fan. Dyoddefodd yn fawr iawn yn ganlynol i hyny, ac ni adferwyd iddi