Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/173

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwyach ei nerth cyntefig; eto daeth yn alluog i fynychu cynulliadau yr eglwys yn dra rheolaidd a chyson.

Fel yr oedd yn tynu tua'r porthladd dymunol yr oedd y stormydd fel yn lluosogi ac ymgryfhau; gwelwn hi yn colli ei hanwyl briod wedi bod yn cyd-deithio yr anial, yn cyd-ddwyn beichiau bywyd, yn cydofidio a chyd-lawenhau am flynyddau meithion, Ergyd trwm oedd hwn iddi, eto parodd iddi feddwl mwy nag erioed am y wlad dda yr aeth ei phriod iddi, ac ar yr hon yr oedd ei gwyneb hithau er's blynyddau lawer. Buan ar ol hyn claddodd ddwy o'i merched, sef Cynthia ac Elizabeth, anwyl briod y Parch. J. J. Butler, D. D., Hillsdale, Mich. Bu y trallodion chwerw hyn yn foddion iddi ollwng ei gafael yn fawr ar bethau y byd hwn a pheri iddi awyddu mwy nag erioed am y wlad hono lle nad oes ing, gofid, nac angau o'i mewn. Er gwaethaf y cwpaneidiau chwerw hyn bu yn ofalus i beidio dyweyd dim yn ynfyd yn erbyn Duw; a theimlai os oedd wedi derbyn cymaint o'r "hyn sydd dda" o law ei Thad Nefol, y dylasai hefyd gyda thawelwch, ymroddiad ac ymostyngiad dderbyn yr "hyn sydd ddrwg." Rhyfedd y fath ymddiriedaeth oedd ganddi yn y Duw da sydd yn llywodraethu yn amgylchiadau plant dynion. Gwelid erbyn hyn ei bod yn tynu yn gyflym tua gororau gwlad well, a gellid meddwl wrthi ei bod yn fwy cymwys o lawer i'r nefoedd nag ydoedd i fyw yn y byd hwn. Yr oedd ei thraed yn cyffwrdd â'r ddaear, ond yr oedd ei hysbryd yn anadlu yn awyrgylch y nef. Yr oedd anian y wlad nefol yn ei henaid, ysbryd y nef yn anadlu drwy ei holl ymddyddanion, a delw y nef fel yn gorphwys ar ei holl ysgogiadau; ac nid oedd y fath