Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/174

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drysor i gael ei gadw yn hir bellach yn y byd hwn. Nid hir y bu heb i angau, "brenin braw," ddyfod yn mlaen i wneyd ei waith, a Mawrth 12fed, 1878, yn 80 mlwydd, deng mis a phedwar diwrnod oed, hunodd ein hanwyl chwaer Mrs. Elizabeth Everett yn dawel yn mreichiau ei Chyfryngwr. O, mor ddymunol oedd yr olwg arni! Os oedd yn rhy wan i fyw, yr oedd yn ddigon cryf i farw. Mor werthfawr yw crefydd Crist! Y fath brofiad cysurus a meddwl tawel y mae yn ei roddi yn y fath amgylchiad! Mae yn rhoddi rhyw ddylanwad rhyfedd ar feddwl ei meddianydd. Ei chlefyd ydoedd pneumonia. Rhyw ddau neu dri diwrnod cyn i'r "clefyd a fu iddi i farwolaeth" wneyd ei ymosodiad arni, galwodd ei hen gyfaill y Parch. Jas. Griffiths, Cattaraugus, i'w gweled; a hynod mor dda oedd ganddi gael ychydig o'i gymdeithas. Teimlai Mr. Griffiths yn ddiau ei bod yn debyg nas gallasai ei gweled byth mwy ar dir y byw; a siaradai, ar ei waith yn ymadael, rywbeth am ansicrwydd bywyd, pan yr adroddodd hithau, gyda rhyw nerth a dwysder mawr y geiriau hyny o eiddo y Salmydd, "Os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto ei nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith." Gosododd bwyslais neillduol ar y gair "ehedwn," a diameu ei bod yr adeg hono yn teimlo ei hedyn fel yn dechreu cael eu gosod mewn ystum briodol ar gyfer yr ehedfa oedd o'i blaen.

Cafodd gystudd trwm, ond nid maith. Dyoddefodd lawer y pythefnos diweddaf, ond yr oll gyda thawelwch ac amynedd mawr. Nid oes angen gofyn pa fodd y teimlai yn ei horiau olaf, na pha fodd yr ymdarawodd yn y bwlch cyfyng. Yr oedd ei theimlad