Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/175

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn angau yn hollol gydgordiol â'i bywyd blaenorol. Bu farw fel y bu fyw. Gwasanaethodd Dduw yn ei bywyd, a gogoneddodd Dduw yn ei marwolaeth. Galwodd cyfaill i'w gweled yn ei chystudd, a gofynodd iddi "Pa un oedd oreu ganddi, gwella, neu gael ei chymeryd i'w chartref yn y nef." Atebodd, "Buaswn yn caru aros ychydig yn hwy gyda y plant yma." Tawelodd am ychydig, yna ychwanegodd, "Nid ydwyf yn teimlo fy mod mor barod i fyned a'r rhai sydd wedi myned, ond yr wyf dan law yr un Arweinydd." A gwnaeth yr Hwn a'i "harweiniodd a'i gyngor ac a'i tywysodd a'i ewyllys ei harwain yn ddiogel i ogoniant."

Cofus genyf glywed y sylw canlynol ganddi fwy nag unwaith: "Bum yn edrych ar y daith i'r nefoedd fel un bell iawn, ond yn awr, oddiar pan y mae fy mhriod a'm plant wedi myned yno, yr wyf yn teimlo fod y nefoedd yn fy ymyl; dim ond cam." Teimlai fod ei pherthynasau ymadawedig yn ei hymyl. I rai, y mae y byd ysbrydol yn mhell iawn, ond iddi hi yr oedd yn ymyl. Teimlai ddyddordeb mawr yn y nef, ar gyfrif y cydnabyddion a'r cyfeillion oedd yno, a hefyd am y rheswm ei bod yn bwriadu yn fuan myned i fyw yno ei hun.

Ychydig oriau cyn ei hymadawiad, pan oedd ei thraed yn oeri yn yr afon, a chills y dwfr yn codi i fyny, adroddodd yr hen benill canlynol mewn llais clir ac effeithiol iawn :

"Gan fy mod i heddyw'n fyw,
Mi ro'f deyrnged
Clod a mawl i'm Harglwydd Dduw,
Am fy arbed."