Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/176

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn fuan ar ol hyn ymadawodd ei henaid anfarwol i'r gorfoledd tragywyddol.

Y dydd Gwener canlynol i'w marwolaeth, sef Mawrth 15fed, cymerodd ei chladdedigaeth le, pryd y rhoddwyd ei gweddillion marwol i orphwys yn ochr ei hanwyl briod a'i phlant yn mynwent brydferth Steuben. Er fod y ffyrdd yn lleidiog ac anhawdd eu teithio, dangoswyd iddi barch mawr yn ymgasgliad tyrfa luosog anarferol i dalu y gymwynas olaf iddi. Gwelwyd yno wynebau braidd o bob man yn Swydd Oneida. Hawdd iawn oedd gwybod y diwrnod hwnw fod tywysoges yn Israel wedi syrthio. Yn y ty darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. R. Trogwy Evans. Yna aed yn orymdaith tua'r Capel Ucha', lle y dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. S. Jones, (B.), ac y pregethwyd gan y Parch. Mr. Short, (M. E.), Remsen, yn Saesneg, a'r Parch. Edward R. Hughes, Steuben, yn Gymraeg. Wrth y bedd, wedi i'r Parch. Morris J. Williams (B.) wneyd ychydig sylwadau pwrpasol, ac i'r Parch. R. T. Evans weddio yn fyr, unodd y dorf gyda'r côr i ganu:

"Ffarwel gyfeillion anwyl iawn,
Dros enyd fechan ni 'madawn,
Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd,
Yn Salem hardd oddeutu'r bwrdd."

Yna ymwasgarodd y dorf fawr gyda'r syniad eu bod wedi claddu un a wasanaethodd ei chenedlaeth yn dda—orphenodd ei gwaith ac a aeth i lawenydd ei Harglwydd.

Teimlir colled nid bychan ar ei hol, nid yn unig gan ei theulu trallodedig, ond gan yr eglwys y perthynai iddi hefyd, a chan y cymydogaethau yn gyffredinol.