Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/177

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond yr ydym yn cwbl gredu fod y golled a gawsant hwy wedi troi yn elw tragywyddol iddi hi. "Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint." Er wedi marw y mae yn byw yn ei theulu, ac yn mysg ei chyfeillion. Bydded i dangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, aros ar ei hanwyl blant, ac ar blant ei phlant, yn nghyd a'r holl berthynasau o'r pryd hwn hyd yn dragywydd.