Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/178

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BARDDONIAETH ALARNADOL.


PENILLION AR OL Y PARCH. ROBERT EVERETT, D. D.,
REMSEN, N. Y.

Mae Seion Americ a'i gruddiau yn wlybion
A galar a thristwch yn gwelwi ei gwedd;
Yn nydd yr uchelwyl ei threm sy'n ddigalon,
Am fod y tad Everett yn huno'n y bedd.
Heb bwyll ac arafwch y duwiol arweinydd,
Mae perygl i'r gwersyll ymdd'rysu mewn braw;
Heb onest rybuddion y ffyddlawn wyliedydd,
Mae'n berygl fod adeg dirywiad ger llaw.

Nid dysg heb athrylith, nid dawn heb dduwioldeb,
Ond cydbwys fantoliad, y naill fel y llall,
A'i cododd i binacl o fawr ddefnyddioldeb,
Nes myned yn ddychryn i fyddin y fall;
Athrawiaeth fendigaid a santaidd ei Geidwad,
Ddefnynai fel neithdar o'i wefus i lawr;
A hon adlewyrchai 'n ei hardd ymarweddiad,
Ail ddweyd ei bregethau wnai 'i fywyd bob awr.

Dyn Duw fu'n ei gartref, ac felly 'n ei ardal,
Fel yn yr areithfa, a'i fuchedd yn bur;
Cynyddu ei rasau wnai trafferth a gofal,
A gloewi ei grefydd wnai trallod a chur;
Ni fu yn arlwyo i eraill ddanteithion
Y trefniant cyfryngol heb fwyta ei hun,
Ni huliodd ddysgleidiau o flaen ei gyd-ddynion
Heb gael manna enaid wrth ddarpar pob un.

Nid rhuad taranau, na rhuthrau y gwyntoedd,
Nid hinon o'r tecaf, na stormydd ar fôr,
Nid bydol fwynderau, cyfeillach na gwleddoedd,
Wnai iddo anghofio cymdeithas ei Iôr;
Yn agos i'r orsedd, yn nhawel ddirgelwch
Ei Arglwydd Goruchaf y treuliodd ei oes;
Tra eraill mewn rhyfel, 'r oedd yntau mewn heddwch,
Yn gwledda ar felus rawnsypiau y groes.