Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/179

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Newmarket yn Nghymru a gadd yr anrhydedd
O fagu y seraph, mab penaf ei bro;
Bu Dinbych a llawer o fanau yn Ngwynedd
Ar flaenffrwyth ei ddoniau yn gwledda am dro;
Yn minio'i bregethau 'r oedd nefol eneiniad,
Wnai ddryllio a thoddi calonau 'r un pryd,
Gan wau am yr enaid ryw gadwyn o gariad
I'w dynu i fynwes Iachawdwr y byd.

Llaw Duw a'i harweiniodd i'r Unol Dalaethau,
Maes penaf ei lafur 'n ol arfaeth y Nef,
I gadw'r ymfudwyr Cymreig o grafangau
Llywodraeth y fagddu sy'n greulawn a chref;
I Gymry a Saeson bu hidliad ei ddoniau,
Fel tyner gawodydd, llawn bendith a lles;
A cha'dd llawer euog fyn'd lawr ar ei liniau,
A llawer un clauar ei lenwi â gwres.

Bu'n dad i'r Cenhadwr, ystorfa bwyd nefol,
Er's meithion flynyddau sy'n fendith i'r oes;
Yn hwnw rhoes ganoedd o wleddoedd rhagorol,
I feithrin hil Gomer mewn crefydd a moes;
Dysgleidiau traethodol o fwyd cryf i'r doethion,
Ond resin, a ffigys, a llaeth i rai bach;
Pur enllyn y Duwdod, dil mêl a gwin Helbon
Arlwyodd yn fisol;-gwledd flasus ac iach.

Ei hyglod Genhadwr fu'n tanio meddyliau
A nefol dan rhyddid, nes oeddynt yn fflam;
Diarbed fagneliad ei rymus erthyglau
Fu'n gymhorth i ddatod cadwynau plant Ham;
Dadleuodd dros ryddid pan oedd yn ddirmygus,
Yn wawd ac yn ogan gan fawrion y wlad;
Bob mis pleidiai achos y caethwas truenus
Mewn geiriau llosgedig, hyd ddydd ei ryddhad.

Ar ddysg y Cenhadwr e fagwyd enwogion
Sy' heddyw'n brif ddynion yr eglwys a'r byd,
Dan wres ei belydrau bu gwag ofergoelion
A drwg arferiadau yn gwywo yn nghyd;
Ei lithiau ysbrydol fu'n foddion adfywiad
Mewn llawer sefydliad Cymroaidd trwy'r wlad;