Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/181

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn nghadair cynadledd nid yw yn llywyddu,
Ei gadair a'i gwmni ragorant yn mhell;
Wrth fwrdd y cymundeb nid yw'n ymhyfrydu,
Fe aeth i gymundeb sy' filwaith yn well.

Mae'r dawn wnai'r wynebau'n ffynonau o ddagrau,
Trwy randir Oneida mor ddystaw a'r bedd;
Mae gwron dewr Seion fu'n llywio ei brwydrau,
Yn gorphwys yn dawel, diosgodd ei gledd;
Mae'r gwersyll galarus i syrthni'n ymollwng,
'Nol colli'r llais bywiog fu'n tanio eu gwaed,
Pa beth ddaw o'r fyddin? Ai cael ei darostwng
Gan lu y Philistiaid, yn wasarn i'w traed?

Na atto y nefoedd! Cyfoder gwroniaid
I ymladd â'r gelyn yn ysbryd a nerth
Yr hoff Doctor Everett, a'u crefydd yn danbaid,
Yn llawn o sêl fflamiol Preswylydd y berth;
Rhai pur na chaiff llymaid o wirod hud-ddenol,
Na myglys ffieiddsawr â'i boeredd a'i fwg,
Wanychu eu hegni, na phylu awch nefol
Arfogaeth eu henaid wrth ymladd â'r drwg.

Un pur a thryloyw oedd Everett, yn gochel
Holl leidiog dir cellwair a chorsydd y blys;
Gwnai ddod at ei frodyr fe pe buasai 'r angel
Agosaf i'r orsedd yn disgyn o'r llys.
Yn llawn o danbeidrwydd pur, santaidd a nefol,
A'i wyneb fel Moses 'n ol bod gyda'r Iôr,
A chariad ei fynwes, fel eiddo 'r apostol
Fu â'i ben ar fron Iesu, can ddyfned a'r mor.

Mae eglwys Dduw'n colli gwasanaeth enwogion;
Aeth Everett a Rowlands, dau ddoctor o'r byd;
Mae'r dewr Morris Roberts, ac S. Williams,[1] ffyddlon,
Ar lanau'r Iorddonen yn chwilio am ryd;[2]
Y prif efengylwyr, yr hoelion wyth gollir,
Man hoelion esgidiau diglop welir mwy;
Mae cyfnod y cewri ar ben, a chanfyddir
Rhyw dô o gorachod yn dod o'u hol hwy.


  1. Bradford, Pa.
  2. Yr oedd y ddau hen frawd clodfawr yn fyw pan gyfansoddwyd y penillion hyn.