Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/182

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tra cenedl y Cymry yn caru yr heniaith,
Bydd enw'r tad Everett yn hoff ganddi hi;
Trwy Gymru a'r Unol Dalaethau eangfaith,
A thorch anfarwoldeb coronir ei fri;
Ei fywyd edmygir tra dyn yn Oneida,
A'r haul yn goreuro y bryniau lle bu;
Ei santaidd ddylanwad o hyd ymled-daena,
A'i gofiant flodeua uwchben y bedd du.

Parhaed ei hoff deulu 'n fagwrfa duwiolion,
Parhaed ei eglwysi yn ffrwythlawn ac ir,
Ei famwlad fo'n codi meib eto mor gryfion
A'i chedyrn fynyddoedd i bleidio y gwir;
Mawryged ol-oesoedd ei bêr goffadwriaeth,
A'i grefydd fo'n gynllun crefyddol i fyrdd;
O lanerch ei feddrod, 'n ol tywallt ein hiraeth,
Gwnawn frysio i'w ganlyn i'r llenyrch byth wyrdd.


DEWI EMLYN.
Parisville, Ohio.


MARWNAD AR OL Y DIWEDDAR BARCH. ROBERT EVERETT, D. D.

[BUDDUGOL YN EISTEDDFOD UTICA, IONAWR 1, 1877.]

Ffowch drafferthion dibwys daear
Draw, clwyfedig yw fy mron;
Hen gymdeithion chwerwon galar
Sydd yn llywodraethu hon;
Er ymdrechu am ddyddanwch,
Ify mynwes, megys cynt,
Cilio 'n llwyr i dir tywyllwch
Wnaeth dedwyddwch ar ei hynt.

Troais at fy nghymydogion
I gael gwel'd oedd ganddynt hwy
Falm i ysgafnhau fy nghalon,
A lliniaru 'm dirfawr glwy;
Ond arwyddion trallod welais
Yn teyrnasu yn mhob man;
A galarus iaith a glywais,
Nes diffygio'm henaid gwan.