Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/186

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac er llawer croes gosododd
Arnom ychwanegol fri;
Ond cywilydd sydd yn perthyn
I'n wynebau ni yn awr,
Am na chafodd yntau dderbyn
Teilwng wobr i'w lafur mawr.

Yn mhlith tywysogion Seion,
Yn ein gwlad ni welais un,
Fu 'n fwy diball mewn ymdrechion,
Teilwng i ddyrchafu dyn;
Trwy y wasg bu'n hyf wynebu
Ar bechodau pena'r oes,
Ac o'r pwlpud yn pregethu
Rhagorfreintiau angau'r groes.

Gwel yr Holwyddoreg destlus,
Roddodd i hyfforddi 'n plant,
Ac i'w harwain dros bob dyrys
Fryn, i deg orphwysfa'r sant;
Eglurhaodd bob gofyniad,
Gyda byr atebiad llawn,
Ac anfeidrol ddwyfol gariad
Duw at ddyn, yr hwn a gawn.

Yn ei gasgliad o ganiadau
Cysegr Iòr, a gawsom ni,
Gwelir llawer o emynau,
Fyddant o anfarwol fri;
Maes y Plwm, a Phant y Celyn,
A enynant ynom dân,
Ac Ann Griffiths gyda 'i thelyn
Seinber, ddaw mewn nefol gân.

Fel golygydd i'r Cenhadwr,
Bu'n wyliedydd ffyddlon iawn,
Yn darparu i'w ddarllenwyr,
Luaws o ddysgleidiau llawn;
Yr ysgrifau oedd a gwenwyn
Ar eu hedyn, gadwodd draw;
A'r diles ddadleuon cyndyn,
A wasgarodd ar bob llaw.