Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/254

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TRAETHODAU A PHREGETHAU.

SYLWADAU AR BRYNEDIGAETH.

Yr wyf yn atolwg dwys ystyriaeth y darllenydd at yr hyn a ganlyn ar athrawiaeth y brynedigaeth. Y mae yn amlwg fod dau fath o brynu yn bod yn mhlith dynion. Un yw, prynu drwy fasnachu, megys prynu tir, anifeiliaid, lluniaeth, &c., drwy roddi uniawn werth am danynt, dim mwy na dim llai. Yr ail yw, prynu yr euog o gaethiwed, drwy roddi iawn drosto i'r gyfraith, a'i ollwng yn rhydd o'i gadwynau ar gyfrif yr iawn. Yn awr y golygiad ysgrythyrol ar brynedigaeth ydyw, personol ryddhad troseddwr oddiwrth ryw ddrwg naturiol neu foesol, ar gyfrif iawn drosto i'r gyfraith. I'r dyben o gael syniadau cywir ar yr athrawiaeth ogoneddus hon, y mae yn ymddangos i mi o'r pwys mwyaf i gadw mewn golwg mai yn gyfeiriol at brynu caethion o'u sefyllfa golledig, ac nid yn yr ystyr fasnachol, y mae yr ysgrythyrau yn darlunio prynedigaeth pechaduriaid drwy waed Crist.

1. Nid dyled o natur fasnachol ydyw pechod, ond peth annhraethol waeth, sef drwgweithred (crime), camwedd neu drosedd o gyfraith, o'r un natur ag y mae y gwrthryfelwr a'r uchel fradwr yn euog o hono pan yn ymgeisio at fywyd eu cyfiawn lywodraethwr. Er y darlunir maddeuant pechod weithiau fel maddeu dyled o arian, Mat. 6: 12; Luc 7: 42; eto nid felly un amser y darlunir pechadur yn ei ansawdd ei hun, nac yn ei berthynas ag aberth Crist,