Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/255

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

2. Y mae y golygiad masnachol o roddi gwerth am werth yn arwain yn ddiarbed i gamgymeriadau niweidiol iawn. Y mae yn rhoddi terfyn ar yr hyn sydd annherfynol, sef aberth Crist, yn dadsylfaenu drwy hyny alwad gyffredinol yr efengyl, a dyledswydd pechadur tuag at yr efengyl; yn gosod allan gyfran o ddynolryw mewn gwell cyflwr, ar ol marwolaeth Crist, na "phlant digofaint;" yn gosod o'r neilldu yr angenrheidrwydd o waith yr Ysbryd i'w symud o'r sefyllfa druenus hono; ac yn mawr gymylu ymddygiad gogoneddus y Barnwr yn y dydd olaf tuag at esgeuluswyr iechydwriaeth, yn rhoddi ychwanegol gosp arnynt na neb eraill. Nis gallaf weled lle i ysgoi y camgymeriadau dinystriol hyn, os dilynir prynu masnachol yn ei gywir ganlyniadau.

3. Y mae y geiriau a gyfieithir prynu, prynedigaeth, prynwr, &c., yn cael eu mynych gyfieithu ymwared, gollyngdod, gwaredwr, &c., yr hyn a fyddai yn gwbl anghyson â'r golygiad masnachol. Lef. 27: 29, "Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail," &c. Salm 111: 9, "Anfonodd ymwared i'w bobl." Salm 130: 7, "Y mae trugaredd gyda'r Arglwydd ac aml ymwared gydag ef." Esa. 50: 2, "Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared?" Esa. 59: 20, "Ac i Seion y daw y gwaredydd," &c. Felly hefyd yn y Testament Newydd, Luc 1: 68, "Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel; canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i'w bobl." Luc 2: 33, "Y rhai oll oedd yn dysgwyl ymwared yn Jerusalem." Luc 24: 21. "Yr oeddym ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai yr Israel.". Act. 7: 35, "Hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr." Gwel hefyd Lef. 25: