Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/256

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

24, 26, 29, 51, 52; Heb. 9: 12, 15, a 11: 35. Yn yr holl ysgrythyrau hyn, yr un gair sydd gan yr Ysbryd Glan am ollyngdod neu waredigaeth ag sydd mewn manau eraill am brynedigaeth.

Ex. 21: Lef. 19: 20,

4. Nid yr un geiriau a ddefnyddir yn yr Hen Destament am brynu masnachol a phrynu pechaduriaid. Am Brynwr a phrynedigaeth pechaduriaid defnyddir y geiriau Goel, cyfnesaf, neu gyfathrachwr'; a phadah, a brynwyd neu a ryddhawyd. Lef. 25: 25, “A dyfod ei gyfnesaf (Goel) i'w ollwng," &c. Ruth 3: 13, "A wna ran cyfathrachwr (Goel) â thi." Job 19: 25, "Mi a wn fod fy Mhrynwr (Goel) yn fyw." 8, "Gadawed ei hadbrynu (phadah) hi." “Ac heb ei rhyddhau (phadah) ddim." Salm 49: 8, "Gwerthfawr yw pryniad (phadah) eu henaid." Geiriau tarddiol oddiwrth Goel a gyfieithir "gollyngdod" yn Lef. 25: 24, 26, 29, 51, 52. O'r tu arall, am brynu trwy fasnachu, y geiriau a arferir gan yr Yspryd Glân ydynt canah a shabar. Gen 25: 10, "Y maes a brynasai (canah) Abraham gan feibion Heth." Gen. 41: 57, "A daeth yr holl wledydd at Joseph i'r Aifft i brynu," &c., (shabar.) Deut. 2: 6, "Prynwch (shabar) fwyd ganddynt am arian." &c. Gen. 33: 19, a 43: 2; Amos 8:6. Ond mae un gair yn cael ei arfer am brynedigaeth yn y Testament Newydd, sef agorazo neu exagorazo, yn arwyddo yn ei ystyr lythyrenol rhoddi gwerth am werth; ond y mae cysylltiad y geiriau blaenorol ac olynol yn y manau hyny lle y mae y gair hwn ar lawr yn dangos yn amlwg mai prynu caethion a olygir, sef eu dygiad o'u sefyllfa gaeth drwy rinwedd iawn drostynt. Felly y mae y dysgedig Min-