Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/257

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tert yn esbonio y gair. [1] Yn y manau canlynol yn unig y mae y gair hwn ar lawr yn ei berthynas â'r athrawiaeth hon, 1 Cor. 6: 20, a 7: 23; Gal. 3: 13, a 4: 4; Dat. 5: 9. Yn ol ddeddf Moses gwerth o arian oedd i gael ei roddi dros gaethwas er ei bryniad o'i gaethiwed.

5. Y mae yn hysbys i'r rhai sydd yn hyddysg yn nghyfieithiad y deg-a-thri-ugain, eu bod hwy yn golygu y brynedigaeth yn "weithredol symudiad" neu ryddhad y prynedig oddiwrth ryw ofid; ac o herwydd hyn y maent yn fynych yn cyfieithu y geiriau a arferir am y brynedigaeth drwy y geiriau sozo a ruomai, y rhai sydd yn llythyrenol yn arwyddo achubiaeth, cadwedigaeth, neu waredigaeth, ac a gyfieithir felly yn y Testament Newydd bob amser. Gwel Mat. 24: 22, a 27: 40, 42; Act. 27: 20, 31; Rhuf. 7: 24, a 11: 26; 2 Tim. 4: 17. Y mae hyn yn ymddangos o bwys mawr, pan yr ystyriom mai y cyfieithiad hwn oedd mewn arferiad yn nyddiau yr apostolion; ac at hwn y maent yn gyffredinol yn cyfeirio yn eu hysgrifeniadau.

6. Mae yr holl fendithion sydd yn y brynedigaeth yn cael eu cynwys yn y golygiad o ryddhau caethion euog, pryd nad ydynt gydag un cysondeb yn dyfod i mewn dan y golygiad o fasnachu; megys prynu y rhai oeddynt yn gaethion dan wyddorion y byd, Gal. 4: 3

-6; llwyr brynu oddiwrth felldith y ddeddf, Gal. 3: 13; symud yr euog i sefyllfa gyfiawnhaol, neu symud y ddedfryd farnol oddiarno, drwy faddeu ei bechodau, Rhuf. 3: 24; Eph. 1: 7; prynu o gaethiwed pechod,

  1. Agorazo, emo; metaphorice redimo, uli ad Christum applicatum. MINTERT.