Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/258

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1 Cor. 6: 20, a 7: 23; oddiwrth ofer ymarferiad, 1 Pedr 1: 18; oddiwrth bob anwiredd, Tit. 2: 14; allan o bob llwyth, a iaith, a phobl, a chenedl, Dat. 5:9; ac o garchar tywyll y bedd yn nydd yr adgyfodiad cyffredinol, yr hyn a eilw yr apostol, "prynedigaeth ein corph," Rhuf. 8: 23; Job 19: 25-28; 1. Cor. 1: 30; Eph. 1: 14, a 4: 30. Yn yr holl ystyriaethau hyn y mae cyfeiriad amlwg at ryddhad o ryw gaethiwed, drwy rinwedd iawn boddhaol i'r llywodraeth.

Drachefn y mae gwahaniaeth amlwg, yn ol yr ysgrythyrau sanctaidd, rhwng y "brynedigaeth" a'r "pridwerth," neu gyfrwng y brynedigaeth. Iawn Crist ydoedd y pridwerth; gweithredol ryddhad troseddwyr, ar gyfrif yr iawn, ydyw y brynedigaeth. Mae a fyno y pridwerth â Duw, offrwm ac aberth o arogl peraidd i Dduw ydoedd; mae a fyno y brynedigaeth â dynion fel caethion euog. Y pridwerth neu'r iawn a symudodd bob rhwystr o ochr y Brenin tragywyddol i osod amodau cymod o flaen y byd; y brynedigaeth sydd yn symud y rhwystrau o galon y pechadur i dderbyn y cymod. Nid oedd y pridwerth neu y cyfrwng, er mor addas ydoedd, yn gwneyd un cyfnewidiad yn nghyflwr yr euog; y mae y brynedigaeth yn gwneuthur cyfnewidiad mawr. Y naill a ddygwyd oddiamgylch gan Grist yn ei berson ei hun, a'r llall yn mherson ei dragywyddol Ysbryd; fel y mae y rhan fwyaf o swyddau Crist yn cael eu gweinyddu drwy yr Ysbryd, megys Prophwyd, Brenin, Bugail, Esgob, &c., felly gan mwyaf y swydd hon hefyd. O herwydd y gwahaniaeth hwn y mae'r ysgrifenwyr sanctaidd yn arfer geiriau cwbl wahaniaethol am y brynedigaeth ac am yr iawn. Goel, cyfathrachwr; a phadah, a brynwyd neu a rydd-