Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/259

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hawyd, megys y sylwyd uchod; a geiriau tarddiol oddiwrthynt, a ddefnyddir yn yr Hen Destament, am y Prynwr a'r brynedigaeth; ond copher, yr hyn a wna gymod; a chataah, pechaberth, a geiriau eraill o'r un ystyr, a ddefnyddir am yr iawn. Felly yn y Testament Newydd, ni a gawn am y brynedigaeth y geiriau lutroo, a brynais neu a ryddheais, lutrosis[1] ac apolutrosis, pryniad neu ryddhad oddiwrth, agorazo ac exagorazo, a brynais; ond nid un amser y mae y geiriau hyn am yr iawn. O'r tu arall defnyddir y geiriau lutron, pridwerth; antilutron, pridwerth gyferbyn; ilasmos, iawn; ac ilasterion, trugareddfa, am yr iawn; ond nid un amser am y pryniad neu y rhyddhad oddiwrth felldith; yr hyn sydd yn eglur yn gosod allan mai un peth oedd yn cael ei olygu gan yr ysgrifenwyr sanctaidd wrth y pryniad, a pheth arall wrth yr iawn, neu y pridwerth a roddwyd er prynu.

Hefyd y mae gwahaniaeth i'w weled yn dra amlwg, ond sylwi yn ddiduedd, yn yr ysgrythyrau hyny lle y mae athrawiaeth y brynedigaeth yn cael ei harwain i mewn. Sylwn ar rai o honynt. Gal. 3: 13, "Crist a'n llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom." "A'n llwyr brynodd oddiwrth y felldith," dyna y brynedigaeth!" gan ei wneuthur yn felldith trosom," dyna y pridwerth neu yr iawn. Eph. 1: 7, "Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau yn ol cyfoeth ei ras ef." "Maddeuant pechodau," neu symudiad y gollfarn oddiar yr euog, ydyw y brynedigaeth; "ei waed ef" ydyw y pridwerth. Tit. 2: 14,

  1. Lutroô, redimo, pretio da to, ex alterius, tyrannide, servitude, vel captitate libero.—MINTERT.